Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o sawl trosedd rhyw yn erbyn plant.
Mae Christopher Norris, 44 oed o Glydach, wedi cael ei ganfod yn euog o ddau achos o ymosodiad rhywiol, un achos o achosi neu ysgogi plentyn i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol, ac un achos o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Heddiw, mae wedi cael ei ddedfrydu i dri deg mis yn y carchar, ac mae hefyd wedi'i wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO). Mae hefyd yn destun gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr am bum mlynedd. Bydd yn parhau ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joanne Williams:
“Mae Christopher Norris yn unigolyn peryglus iawn a fanteisiodd ar ei ddioddefwr, sy'n blentyn, heb roi unrhyw ystyriaeth i'w lesiant.
“Rwy'n canmol dewrder y dioddefwr wrth roi gwybod am weithredoedd Christopher Norris, a oedd yn allweddol wrth helpu i'w ddwyn i gyfrif.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr a'i deulu, y mae pob un ohonynt wedi bod drwy brofiad dychrynllyd.”