Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Taflodd deliwr cyffuriau o Abertawe gocên dros wal ei ardd a cheisiodd ddweud mai eiddo ei gymydog diniwed ydoedd pan gafodd ei holi gan swyddogion.
Gwnaeth Rees Manning sy'n 42 oed gynhyrfu pan sylweddolodd fod swyddogion y tu allan i'w dŷ yn barod i weithredu gwarant chwilio ar fore 15 Hydref (2024).
Mewn ymgais i osgoi cael ei arestio, taflodd gocên gwerth miloedd o bunnoedd dros wal ei ardd, gan ddweud wrth yr heddlu yn nes ymlaen y bod yn rhaid bod unrhyw becynnau a gafodd eu darganfod yn yr ardd honno yn eiddo i'w gymydog.
Ond roedd y swyddogion a oedd ar eu ffordd i glwyd gefn yr eiddo ar y pryd wedi gweld popeth. Gwnaethant atafaelu'r cyffuriau - sef swm o fwy na 50g o gocên a oedd yn werth £3500 - a chafodd ei arestio.
Daethpwyd hefyd o hyd i gocên ynghyd â £340 mewn arian parod ym mhoced ei dracwisg ac yn ystod chwiliad o'i dŷ, gwnaeth swyddogion adfer cloriannau pwyso, nifer o fagiau snap-seal, swm bach o ganabis, a thabledi pregabalin. Roedd tystiolaeth o ddelio cyffuriau ar ffôn a atafaelwyd oddi ar Manning.
Yn dilyn hynny, plediodd yn euog i feddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi, caffael eiddo troseddol, yn bennaf arian parod, a chael canabis yn ei feddiant.
Hwn oedd y pumed tro i Manning gael ei ddal yn delio cyffuriau - yn ystod yr 20 mlynedd blaenorol, cafodd bedair dedfryd o garchar oedd yn gyfanswm o 17 mlynedd a phedwar mis yn y carchar am ddelio heroin a chocên. Pan gafodd ei arestio ym mis Hydref roedd allan o'r carchar ar drwydded.
Ymddangosodd Rees Manning yn Llys y Goron Abertawe i gael ei ddedfrydu ar 25 Tachwedd lle dywedodd ei fod yn ddeliwr cyffuriau ond 'ddim yn un da iawn'. Cafodd ei garcharu am chwe blynedd a phedwar mis.