Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch heddlu i sicrhau bod pawb yn cael amser diogel a llawn hwyl yng nghanol dinas Caerdydd bellach ar waith.
Mae swyddogion a phartneriaid yr heddlu i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod partïwyr, siopwyr, ac wrth gwrs y bobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas, yn cael gofal da y Nadolig hwn.
Mae adnoddau ychwanegol yn cael eu defnyddio yng nghanol y ddinas sy'n denu tua 142,000 o ymwelwyr bob dydd.
Hyd yn hyn y mis hwn, fel rhan o Ymgyrch Mistletoe, mae swyddogion wedi cynnal patrolau mewn dillad arferol er mwyn arestio unigolion y mae'r heddlu'n chwilio amdanynt, wedi cynnal cyrch cyllyll, ac wedi atafaelu sawl beic mewn ymgyrch ar y cyd ag wardeiniaid canol y ddinas er mwyn mynd i'r afael â'r defnydd anghyfreithlon o e-feiciau.
Wrth i werthiannau alcohol gynyddu dros 50% o gymharu â gwerthiannau misol cyfartalog drwy gydol y flwyddyn, mae partneriaid o'r ganolfan triniaeth alcohol, bugeiliaid y stryd a marsialiaid tacsi yn gweithio bob nos Wener a nos Sadwrn, ac wrth gwrs mae ein Bws Diogelwch ar batrôl yn helpu pobl sy'n agored i niwed.
Dywedodd yr Arolygydd Adrian Snook o Heddlu De Cymru:
"Rydym am i bobl ddod i Gaerdydd i fwynhau tymor y Nadolig a phopeth sydd gan y ddinas i'w gynnig.
"Bydd Ymgyrch Mistletoe yn canolbwyntio ar yr economi yn ystod y dydd a'r economi liw nos, gyda phatrolau ychwanegol i greu amgylchedd diogel i bawb.
“Rydym am i bawb fwynhau'r brifddinas ond mewn ffordd sy'n dderbyniol yn gymdeithasol ac sy’n parchu eraill.
"Yn ystod mis Rhagfyr rydym yn gweithio'n agos gyda'n hasiantaethau partner er mwyn sicrhau bod pawb yn cael amser da a'u bod yn mynd adref yn ddiogel.”