Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae trydydd person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar yr A4050 ger y Bari, ddydd Sadwrn 2 Tachwedd. Mae wedi'i enwi'n Ralph James, 67 oed o Benarth.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo yn dilyn y gwrthdrawiad lle bu farw ei fodryb a'i gefnder yn y fan a'r lle.
Meddai teulu Ralph:
“Roedd ei deulu cyfan a'r gymuned ehangach a oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd ganddo bob tro amser i bobl ac roedd yn adnabyddus.
"Bu'n byw yn ardal Penarth drwy gydol ei fywyd ac yn gweithio yn nociau Caerdydd ers pan oedd yn 18 oed.
"Roedd wrth ei fodd yn treulio amser ar wyliau yn Nyfnaint a Chernyw ac yn treulio amser gyda'i deulu.
"Ni ellir cyfleu mewn geiriau y golled rydym yn ei theimlo ar hyn o bryd fel teulu. Mae colli cymaint o aelodau o'r teulu ar unwaith yn dorcalonnus.
“Bydd Ralph yn aros yn ein calonnau am byth a fyddwn ni byth yn ei anghofio.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo ar gamera dashfwrdd gysylltu â'r heddlu.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd isod gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400365249.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy'r ffurflen ar-lein yn Rhoi Gwybodaeth | Crimestoppers (crimestoppers-uk.org)