Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau berson o Abertawe wedi cael eu dedfrydu ar ôl pledio'n euog i wyngalchu £250,000.
Ymddangosodd Robert Norris, 44 oed o Blasmarl a Natalie McBride, 35 oed o Bortmead gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw (Dydd Gwener 20 Rhagfyr) ar ôl pledio'n euog i droseddau gwyngalchu arian.
Mae Norris wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a naw mis yn y carchar. Mae McBride wedi cael gorchymyn cymunedol o 12 mis.
Ym mis Mai 2020, digwyddodd achos o ladrata ger y goleuadau traffig ar gyffordd Carmarthen Road a Dyfatty Street. Cafodd swm mawr o arian parod, sef oddeutu £88,000, ei ddwyn yn dilyn gollyngiad cyffuriau yn ardal Townhill, Abertawe.
Ym mis Mehefin 2020, cafodd Jonathan Norris, 42 oed, ei gyhuddo o'r lladrad a phlediodd yn euog yn ystod treial ym mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Cafodd ei anfon i'r carchar am naw mlynedd.
Yn dilyn y lladrad, gwnaed cyfres o adneuon arian parod i mewn i gyfrif banc Robert Norris. Digwyddodd y rhain rhwng mis Mehefin a mis Awst 2020, sef cyfanswm o £66,740.
Mae ymchwiliad i sefyllfa ariannol Robert Norris wedi dangos bod ganddo swm mawr o arian, sef £70,413.02, yn ei gyfrif banc.
Cafodd ei arestio ym mis Mawrth 2010 mewn perthynas â'i ran bosibl yn y lladrad a'r arian parod anesboniadwy a dalwyd i mewn i'w gyfrif banc.
Dangosodd cyfrif banc Norris ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2015 a mis Mawrth 2021 werth £250,927.40 o adneuon arian parod anesboniadwy. Gwnaed llawer o'r taliadau arian parod hynny ar yr un diwrnod mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Abertawe.
Rhwng 2015 a 2020, ni roddodd Norris wybod i Gyllid y Wlad am unrhyw gyflogaeth drwy ffurflenni treth hunanasesu neu TWE.
Yn ystod y flwyddyn rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Rhagfyr 2020, trosglwyddodd Norris symiau mawr o arian drwy gyfrif banc ei bartner ar y pryd, Natalie McBride, sef cyfanswm o £23,970.00.
Yn ystod yr un cyfnod, trosglwyddodd McBride £19,671.00 yn ôl i gyfrif Norris.
Mae'r ymchwiliad hwn yn ymwneud â chyfanswm o £312,003.40 o arian parod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard George:
“Cymaint oedd y dystiolaeth yn erbyn Norris a McBride fel nad oedd ganddynt fawr ddim dewis ond pledio'n euog i'w troseddau.
“Mae hyn yn gasgliad llwyddiannus i ymchwiliad hir ac estynedig a gynhaliwyd yn ddiwyd gan ein timau Troseddau Cyfundrefnol, ein tîm Seiberdroseddu Economaidd, ein Rheolwr Ariannol Penodedig a'n tîm Dadansoddi, sydd wedi targedu'r rhai sy'n elwa o droseddu.
“Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n anfon neges gref i'r rhai sy'n credu eu bod uwchlaw'r gyfraith, ac sy'n ystyried bod troseddoldeb cysylltiedig yn ffordd o wneud symiau sylweddol o arian yn gyflym.
“Dim ond mater o amser ydyw nes y bydd troseddwyr fel y rhain yn cael eu dal, a byddwn yn gweithio'n ddiflino, ochr yn ochr â'n partneriaid, i sicrhau eu bod yn cael eu dwyn i gyfrif.”