Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ymgyrch Flueggea yn ymchwiliad rhagweithiol i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yng Nghaerdydd sy'n mewnforio ac yn dosbarthu canabis ar raddfa eang. Arweiniwyd yr ymgyrch gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru.
Ar 9 Rhagfyr 2024, gweithredodd Tarian nifer o warantau ledled Caerdydd a'r Barri gyda chymorth Heddlu De Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cafodd y canlynol eu harestio a'u cyhuddo o gynllwynio i fewnforio cyffur rheoledig Dosbarth B gyda'r bwriad o osgoi gwaharddiad / cyfyngiad; cynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig Dosbarth B – canabis a bod â chyffur rheoledig Dosbarth B – canabis yn eu meddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Yr unigolion yw:
Abubakr Khawar, 28 oed, o Lanyrafon, Caerdydd
Mohammed Nurul Hussain, 28 oed, o Lanyrafon, Caerdydd
Sophie Jones, 32 oed, o'r Sblot, Caerdydd
Keiron Jones, 28 oed, o'r Eglwys Newydd, Caerdydd
Solomon Bertram, 35 oed, o Lanisien, Caerdydd
Steven Munroe, 44 oed, o'r Sblot, Caerdydd
Cafodd Sean Montgomery, 23 oed o Dredelerch, Caerdydd ei gyhuddo o gynllwynio i fewnforio cyffur rheoledig Dosbarth B gyda'r bwriad o osgoi gwaharddiad / cyfyngiad a chynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig Dosbarth B – canabis.
Ymddangosodd pob un o'r saith gerbron y Llys yr wythnos hon. Mae'u hymddangosiad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mercher 6 Ionawr.
Fel rhan o gamau gorfodi pellach, daeth swyddogion o hyd i oddeutu £25,000 mewn arian parod.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Sean Meyrick o Tarian:
“Rwy'n annog perthnasau unigolion sy'n agored i niwed i siarad â'u hanwyliaid a'u rhybuddio o beryglon derbyn nwyddau ar ran dieithriaid.
“Nid dim ond oedolion sy'n agored i niwed sydd wedi cael eu targedu. Rydym wedi gweld bod myfyrwyr a phobl ifanc wedi cael cynnig y cyfle i wneud arian cyflym.
“Rwy'n rhybuddio unrhyw un sy'n ystyried derbyn arian gan rywun nad ydynt yn ei adnabod, derbyn parseli yn eu cyfeiriad cartref ar ran y person, i feddwl am y canlyniadau posibl. Mae'n hynod debygol y bydd y parseli yn cynnwys nwyddau anghyfreithlon, fel cyffuriau, a thrwy ganiatáu i'ch cyfeiriad gael ei ddefnyddio, gallech wynebu cyhuddiadau troseddol a / neu ganlyniadau addysgol, fel cael eich gwahardd o'ch cwrs.”