Stamp amser presennol: 17/07/25 07:27:48
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ple Nadolig gan weithwyr brys ar ôl cynnydd mewn ymosodiadau

Cynnwys y prif erthygl

Abertawe/Castell-nedd Port Talbot Caerdydd/Bro Morgannwg RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 11:01 11/12/24

Mae ymosodiadau ar weithwyr brys Cymru wedi cynyddu, mae data newydd wedi datgelu

Mae ymosodiadau ar weithwyr brys Cymru wedi cynyddu, mae data newydd wedi datgelu.

Bu fwy na 3,000 o ymosodiadau yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2024, sy'n cynrychioli cynnydd o naw y cant o flwyddyn i flwyddyn.

Roedd yr ymosodiadau yn cynnwys cicio, slapio, poeri, brathu, curo pen a cham-drin geiriol, ac roeddent yn amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol ymlaen llaw yn cynnwys niwed corfforol difrifol.

Roedd naw digwyddiad yn ymwneud ag arf.

Gyda’r Nadolig yn agosáu, mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan:

"Rydym yn parhau i weld cynnydd yn y nifer o ymosodiadau yn erbyn heddweision ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.

"Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig a fyddai'n achosi gofid mawr i unrhyw un, ac nid yw'n wahanol pan fo'r dioddefwr yn weithiwr brys. Y tu ôl i bob gwisg gwaith mae person a ddylid cael eu trin felly. "Gall effeithiau seicolegol a chorfforol ymosodiad fod yn hirdymor, ac ni ddylai unrhyw un orfod mynd i'r gwaith gan ofni y bydd rhywun yn ymosod arnynt, yn enwedig pan fyddant yn gweithio'n galed i gadw eraill yn ddiogel. 

"Dyma'r tymor o ewyllys da ac rydyn ni'n ofyn llawer gan ein gweithwyr brys, felly plîs parchwch nhw a'u gwarchod."

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

"Mae criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond ni allant ymladd dros fywyd rhywun os ydynt yn ymladd dros eu bywyd eu hunain.

"Yn ein hystafell reoli, yn y cyfamser, gallai cam-drin y trinwyr galwadau ar lafar fod yn oedi cyn rhoi cymorth i’r claf.

"Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu bod mwy o bobl allan yn mwynhau’r hwyl, a chydag yfed alcohol daw cynnydd mewn ymosodiadau corfforol a llafar.

"Mae’r hyn rydym yn gofyn amdano yn syml – mae gweithwyr brys eisiau eich helpu chi, felly cofiwch eu trin â pharch a gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn."


Cipolwg

  • Cynyddodd nifer yr ymosodiadau misol cyfartalog o 236 ym mis Gorffennaf 2022 – mis Mehefin 2023 i 256 ym mis Gorffennaf 2023 – mis Mehefin 2024.
  • O'r 3,075 o ymosodiadau rhwng mis Gorffennaf 2023 – mis Mehefin 2024, roedd 71% o'r dioddefwyr yn heddlu, 18% yn staff meddygol a 2% yn weithwyr tân ac achub.
  • Yn ystod chwe mis cyntaf 2024, Merthyr Tudful oedd â’r gyfradd uchaf o ymosodiadau, sef 1.43 fesul 1,000 o’r boblogaeth, ac yna Wrecsam (1.42), Blaenau Gwent (1.33), Sir Ddinbych (1.22), Casnewydd (1.22), Torfaen (1.17) , Caerdydd (1.15) a Chaerffili (1.01).
  • Yn yr un cyfnod, roedd canlyniad hysbys i 1,282 o ymosodiadau, gyda hanner ohonynt yn 'bositif', e.e. cyhuddwyd y troseddwr, rhoddwyd rhybudd iddo, rhoddwyd gorchymyn cymunedol iddo.
  • Mae'r rhan fwyaf o ymosodiadau yn digwydd ar nos Sadwrn ac yn cyfrif am 10% o'r digwyddiadau yn ystod chwe mis cyntaf 2024.
  • Troseddwyr 26-35 oed sy'n parhau i gyfrif am y gyfran uchaf o droseddu (34%).
  • Roedd yn hysbys bod 335 (24%) o ddigwyddiadau yn gysylltiedig â meddwdod alcohol.

Ymosodwyd ar ymarferwyr ambiwlans brys Ian Jones a Gareth Casey gan glaf ym Mhorth Tywyn ym mis Mehefin, cyn iddi droethi yng nghefn eu hambiwlans.

Roedd y cydweithwyr o Sgeti yn trin menyw yr adroddwyd ei bod wedi cwympo yn y stryd a tharo ei phen, cyn iddi ddod yn sarhaus yn eiriol ac yn gorfforol.

Dywedodd Ian:

"Roedd hi eisoes wedi taro Gareth yn ystod ein hasesiad cychwynnol, ond aeth mor ymosodol ar y ffordd i’r ysbyty fel bod yn rhaid i ni stopio’r ambiwlans a’i hatal yn gorfforol, er ei diogelwch hi a’n diogelwch ni.

"Dyma’r tro cyntaf a’r unig dro i mi wasgu’r ‘stribed panig’ yn yr ambiwlans fel bod modd recordio popeth ar deledu cylch cyfyng.

"Fe wnaethon ni alw’r heddlu, a gyrhaeddodd o fewn munudau, ond yn y cyfamser, roedd hi’n bygwth troethi yng nghefn yr ambiwlans.

"Yn anffodus, fe wnaeth hi wneud iawn am y bygythiad hwnnw."

Ychwanegodd Ian, cyn-ddiffoddwr tân gyda’r RAF:

"Rwy’n gyn-filwr ac mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion ag ymddygiad heriol, ond mae’n dal yn siomedig bob tro rydyn ni’n cael ein hunain yn y sefyllfaoedd hyn.

"A gawson ni ein clwyfo'n farwol? Naddo, ond y pwynt yw ein bod ni yno i helpu rhywun yn eu hawr o angen, a dyna sut y cawsom ein had-dalu - ymosodiad yw ymosodiad.

"Roedden ni’n fwy rhwystredig gan y ffaith bod yn rhaid i’r ambiwlans gael ei dynnu allan o wasanaeth i gael ei lanhau’n drylwyr, a oedd yn golygu nad oedd ar gael i gleifion eraill y gallai eu cyflwr fod yn fywyd neu’n farwolaeth."

Dywedodd Gareth, a arferai weithio ym maes diogelwch cyn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans, ei fod wedi dioddef ymosodiad mwy o weithiau yn y swydd hon nag yn ei swydd flaenorol.

"Roedd y claf i’w weld yn iawn gyda ni i ddechrau, ond roedd fel fflic o switsh," meddai Gareth.

"Wnaeth y dyrnod ddim brifo – ei bygythiadau i ladd wnaeth fy syfrdanu’n fwy.

"Yn anffodus, nid hwn oedd fy ymosodiad cyntaf yn y gwaith.

"Unwaith, ces i fy mrathu a bu’n rhaid i mi gael profion gwaed am chwe mis wedyn i wneud yn siŵr nad oeddwn wedi dal HIV neu Hepatitis.

"Fe effiethiodd arna i yn feddyliol, heb sôn am y straen a roddodd ar fy mherthynas.

"Yn aml rwy’n dod adref a bydd fy machgen naw oed yn gofyn pam fod gennai gleisiau dros fy nghorff i gyd.

"Fel gweithwyr brys, fe ddylen ni allu mynd i’r gwaith a dod adref yn ddianaf.

"Rydw i wedi dod i’w ddisgwyl nawr, ond nid yw’n golygu ei fod yn iawn."

Fis diwethaf, cafodd Michelle Richards, o Deras y Rheilffordd, Llanelli, ei dedfrydu i dri mis yn y carchar wedi’i ohirio am 18 mis ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i ddau gyhuddiad o ymosod trwy guro gweithiwr brys ac i ddifrod troseddol.

Lansiwyd Yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.  

Dywedodd Mark Hobrough, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent:

"Ni ddylai neb ddioddef ymosodiad o unrhyw fath, ac mae’n destun pryder bod rhai pobl yn credu bod hyn yn ffordd briodol o ymddwyn tuag at berson arall.

"Bydd ein swyddogion, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn aml yn delio â phobl ar adegau anodd yn eu bywydau, ond nid yw hynny’n cyfiawnhau’r ymddygiad ymosodol, bygythiol a threisgar y maen nhw’n ei brofi’n aml.

"Byddwn yn cefnogi unrhyw swyddog neu weithiwr gwasanaeth brys sydd wedi profi cam-drin neu drais tra hefyd yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol."

Ychwanegodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru:

"Mae effaith unrhyw fath o ymosodiad, yn eiriol neu’n gorfforol, yn hynod niweidiol i’n gweithwyr brys GIG sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu a thrin y rhai sydd â’r angen mwyaf.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron trwy Gydweithrediaeth Gwrth-drais GIG Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud popeth i atal digwyddiadau rhag digwydd, ac i gefnogi unrhyw staff sy’n profi bygythiadau a thrais."

Addunedwch eich cefnogaeth i'r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.