Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Tua 7:30 ddydd Llun 14 Hydref, aeth Michael Richards i mewn i siop Tesco Express ar Stryd Tredegar yng nghanol dinas Caerdydd.
Aeth Richards, 28 oed, yn syth i'r adran alcohol a chydiodd mewn dwy botel o Budweiser. Cafodd ei weld gan swyddog diogelwch y siop yn cymryd y poteli, gan ei bod cyn yr amser y gall siopau werthu alcohol o dan reolau trwyddedu, sef 8am.
Llwyddodd y swyddog diogelwch i adfer un botel ganddo, ond gollyngodd Richard y llall ar y llawr, gan ei thorri. Cydiodd yn y botel wedi'i thorri a bygythiodd y swyddog diogelwch a'r staff.
Yna, aeth Richard yn ôl i mewn i'r siop a dygodd ragor o alcohol cyn dianc. Cafodd ei arestio ar ôl i swyddogion gael llun llonydd o gamera teledu cylch cyfyng y siop o'r unigolyn dan amheuaeth, a defnyddio technoleg adnabod wynebau ôl-weithredol i adnabod Michael Richards.
Ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2024, yn Llys y Goron Caerdydd, plediodd Richard yn euog i achos o ladrata a dwyn o siop a chafodd ei ddedfrydu i 22 mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Eleri Phillips:
“Gwyddom y gall troseddau masnachol a lladrata gael effaith sylweddol ar ddioddefwyr, felly rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau achosion o ladrata a dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol, yn enwedig y troseddwyr cyson hynny sy'n achosi gofid i'r gymuned ac yn codi ofn arni.
“Lle y bo'n briodol, byddwn yn defnyddio technoleg adnabod wynebau ôl-weithredol ac yn dwyn y rhai sy'n cael eu dal ar gamerâu teledu cylch cyfyng o flaen eu gwell.”