Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r cerddwr a fu farw o ganlyniad i wrthdrawiad traffig ffyrdd ar Water Street, Port Talbot nos Sadwrn 7 Rhagfyr, 2024, wedi cael ei enwi fel Thomas Noel Crowley a oedd yn 86 oed.
Bu farw Thomas ddydd Mawrth 10 Rhagfyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd o ganlyniad i'r anafiadau a gafodd.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo:
"Roedd Thomas Phillip Noel Crowley, a oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Noel', yn aelod adnabyddus o'r gymuned ac yn Gatholig selog. Cafodd ei fagu ym Mhort Talbot ac yno y bu'n byw drwy gydol ei oes. Gwnaeth gyfarfod â'i wraig annwyl Anne yn 1954, a gwnaethant briodi yn 1957.
"Briciwr oedd ef o ran ei grefft a gweithiodd i Hecketts, sef cwmni contractio Americanaidd yn y Gwaith Dur, lle roedd yn Ddirprwy Reolwr. Adeiladodd lawer o bethau i lawer o bobl a Noel oedd y dyn i fynd ato am gyngor, oherwydd ei ddoethineb a'i graffter.
"Bu'n gwasanaethu'r ardal am flynyddoedd lawer fel aelod o St Vincent de Paul, cynghorydd lleol, Maer ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, gyda chymorth enfawr ei wraig Anne.
"Cafodd ei wasanaeth i'r gymuned ei gydnabod gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II pan roddodd CBE iddo.
"Mae ei anrhydeddau eraill yn cynnwys Dirprwy Is-gapten, Urdd Sant Ioan, Pro Ecclesia Et Pontifice a Rhyddid y Fwrdeistref.
"Roedd Noel ac Anne gyda'i gilydd am 70 mlynedd ac roeddent yn gwneud popeth ar gyfer ei gilydd a gyda'i gilydd. Roedd hi'n ei gefnogi ym mhopeth roedd yn ei wneud. Roedd yn ddyn teuluol cariadus ac yn ofalwr allweddol i'w ŵyr Sam, sy'n awtistig, gan ofalu am ei holl anghenion.
"Ar ôl ymddeol, roedd wrth ei fodd yn chwarae golff, a gwnaeth lawer o ffrindiau yn ystod ei amser fel aelod o glwb golff y Pîl a Chynffig. Gwnaeth ymddeol o golff flwyddyn yn ôl i fod gyda'i wraig Anne, sydd wedi bod yn dioddef o iechyd gwael.
"Roedd yn cael ei garu'n fawr gan ei holl deulu, ac roedd yn falch ohonynt i gyd, gan gynnwys ei ddau fab Tyrone a Timothy sydd wedi marw.
"Roedd yn croesawu pawb gyda gwên, gyda gallu arbennig i wneud i chi chwerthin ac roedd yn adroddwr stori gwych. Cyflawnodd lawer yn ystod ei fywyd, ond ei ddawn fwyaf oedd y ffordd anhunanol yr oedd yn caru pobl eraill ac yn gofalu amdanynt.
"Bu farw'n heddychlon, wedi'i amgylchynu gan ei deulu annwyl a oedd yn ei garu'n fawr.
"Ni all geiriau esbonio'r golled rydym yn ei theimlo. Bydd atgofion amdano yn byw ym mhob un ohonom.”
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd fideo teledu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd y mae'n credu ei fod yn berthnasol gysylltu â ni, gan ddyfynnu 2400405228.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
101
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Gall gwybodaeth hefyd gael ei chyflwyno'n ddienw drwy Crimestoppers, ar 0800 555 111 neu drwy ei ffurflen ar-lein