Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 58 oed wedi ymddangos yn Llys y Goron Abertawe heddiw (Dydd Mercher, 11 Rhagfyr) wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw plant gan gynnwys ceisio trefnu neu hwyluso trosedd rhyw plant, oedolyn yn ceisio cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn a thorri Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Cafodd David Parton o Benarth ei arestio ym mis Hydref ar ôl trefnu cwrdd â phlentyn o dan 13 oed yn dilyn sgyrsiau ar-lein. Mae wedi ei anfon i'r carchar am. Mae wedi cael ei anfon i garchar am chwe blynedd.
Yna bydd yn rhaid iddo dreulio pedair blynedd arall ar drwydded gan ei fod wedi'i farnu fel troseddwr peryglus gan ddod â chyfanswm y ddedfryd i 10 mlynedd. Mae ganddo hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am oes, a bydd rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.
Gwnaeth yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol De Cymru, ganfod bod Patron wedi targedu plant yn Ne Cymru a denu plentyn i gyflawni gweithredoedd rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Isaac Gott o Tarian:
"O ganlyniad i ymchwiliad cymhleth a thrylwyr gan dditectifs o Tarian, doedd gan Patron ddim llawer o ddewis ond pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
"David Parton yw un o'r troseddwr mwyaf peryglus i mi ddod ar ei draws. Mae e'n ddyn sy'n peri risg eithriadol i blant. Dechreuodd feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn a oedd o dan 13 oed yn ei dyb ef ar 26 Medi 2024, ac yn ystod yr amser hwn, gwnaeth ddenu'r plentyn i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol treiddiol.
"Datblygodd y cyfathrebu, ac roedd y diffynnydd yn bwriadu defnyddio offer taro ar y plentyn a thrafododd ddefnyddio condomau hefyd. Ar 11 Hydref teithiodd y diffynnydd i gyfarfod y plentyn yn Ne Cymru lle cafodd ei gwrdd gan dditectifs o Tarian a swyddogion o Heddlu De Cymru a'i arestio yn syth.
"Gwnaeth swyddogion chwilio ei gerbyd a dod o hyd i iraid, condomau a sildenafil sy'n cael ei werthu fel arfer o dan yr enw brand Viagra. Wrth chwilio, daethpwyd o hyd hefyd i chwip, brwsh gwallt, a gwregys y dywedodd y diffynnydd y byddai'n eu defnyddio ar y plentyn. Roedd yn amlwg ei fod yn bwriadu cam-drin y plentyn hwn yn rhywiol drwy weithredoedd rhywiol treiddiol.
"O ganlyniad i'r ymchwiliad sydyn a manwl gan Tarian, cafodd Parton ei gyhuddo'r un diwrnod ag y cafodd ei arestio a chafodd ei gadw yn y ddalfa.
"Mae bellach yn y carchar ac ni all beri risg i blant mwyach. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhybudd i unrhyw un sy'n bwriadu cam-drin plant. Byddwn yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i ddod o hyd i chi a sicrhau eich bod yn ymddangos gerbron y llys.
“Mae mynd i’r afael ag achosion o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein yn flaenoriaeth genedlaethol i wasanaethau gorfodi’r gyfraith, ac rydym yn mynd ar ôl mwy o droseddwyr ac yn diogelu mwy o blant nag erioed o’r blaen.”
Dylai unrhyw un sy'n poeni am weithgarwch eu plentyn ar-lein gysylltu â'r heddlu ar 101 a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad neu weithgarwch amheus.