Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Sul 10 Tachwedd, tua 9:00pm, roedd car heddlu heb ei farcio yn patrolio ar hyd Ffordd y Mwmbwls yn Abertawe, pan dynnwyd eu sylw at Seat Ibiza coch yn cael ei yrru'n gyflym.
Pan wnaeth swyddogion geisio stopio'r car, methodd Grant â stopio a gyrrodd i ffwrdd yn gyflym. Roedd yn gyrru ar gyflymder o fwy na 50mya ac mewn rhai mannau cyrhaeddodd 70mya tra roedd mewn parthau 20mya a 30mya.
Parhaodd Grant i yrru'n eratig, a gyrru drwy oleuadau coch heb arafu a dangos dim gofal tuag at yrwyr eraill. Wrth i Grant nesáu at gylchfan fach wrth gyffordd Heol Gwyrosydd, collodd reolaeth a tharo car a oedd wedi'i barcio, gan achosi i'w gerbyd droi drosodd. Cafodd ei arestio yn y fan a'r lle ar ôl gadael y car heb anafiadau.
Cafodd y ferch a oedd yn teithio yn y car hefyd anafiadau ac roedd angen llawdriniaeth arni oherwydd y gwrthdrawiad.
Ymddangosodd Ethan Grant, 21 oed o Lanisien yng Nghaerdydd, gyntaf gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher 27 Tachwedd, lle plediodd yn euog i yrru cerbyd modur yn beryglus, methu â stopio pan ofynnodd yr heddlu iddo wneud hynny, gyrru cerbyd heb drwydded a gyrru cerbyd heb yswiriant.
Cafodd ei ddedfrydu i 10 mis yn y carchar wedi'i ohirio am 18 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 23 Rhagfyr.
Bydd yn rhaid i Grant hefyd gwblhau 200 awr o waith di-dâl dros y 12 mis nesaf a chafodd ei wahardd rhag gyrru am y ddwy flynedd nesaf.