Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ali Mahmood Abdulmageed wedi cael ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar am dreisio, carcharu ffug, tagu, ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol ac am ymosod.
Daeth ei droseddau i'r amlwg wrth i aelodau o'r cyhoedd ymyrryd mewn digwyddiad a oedd yn cynnwys Abdulmageed yng Nghaerdydd ym mis Awst 2022.
Cafodd swyddogion eu galw ac arestiwyd Abdulmageed.
Cafodd y dyn 34 oed o'r Mynydd Bychan ei ganfod yn euog yn dilyn treial a chafodd ei ddedfrydu heddiw (dydd Gwener, 13 Rhagfyr) yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ian Booker, o Heddlu De Cymru: “Dioddefodd yr unigolyn gyfres o ymosodiadau treisgar a diraddiol gan Ali Mahmood Abdulmageed.
“Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr ac yn ei galluogi i ddechrau'r broses o adfer ei hyder.”
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais. Rydym yn annog pobl i gysylltu a rhoi gwybod i ni am achosion.
Ceisiwch help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Fyddwn ni ddim yn eich barnu, byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.