Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Torrodd y bwrgler, Jamie Laver, i mewn i gartrefi a fflatiau yn ardaloedd y Rhath a'r Sblot.
Gwnaeth ddwyn teledu 72 modfedd o lety myfyrwyr a gemwaith o werth personol o gartref mam-gu.
Ond daeth ei sbri troseddol i ben pan gafodd ei adnabod drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol.
Cafodd Laver ei ddal ar Gamera Teledu Cylch Cyfyng mewn Co-op ar Ffordd Sblot yn defnyddio cerdyn banc o fwrgleriaeth funudau yn gynharach ar 22 Ebrill 2024.
Roedd ei hunaniaeth yn anhysbys, felly ym mis Mai 2024, gwnaeth ditectifs droi at ein dilynwyr Facebook i gael cymorth.
Gwnaeth sawl unigolyn enwi Laver, a oedd yn hysbys i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, fel yr unigolyn dan amheuaeth a gwnaeth y dechnoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol gadarnhau'r gyfatebiaeth.
Cafodd Laver ei arestio a'i gyhuddo, ac yn ddiweddarach plediodd yn euog i bum bwrgleriaeth, difrod troseddol, a lladrata.
Dedfrydwyd y dyn 30 oed yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, 12 Rhagfyr i 28 mis yn y carchar.
Mae un o'i ddioddefwyr, gwraig 68 oed o'r Sblot, wedi disgrifio effaith y fwrgleriaeth.“Ers y fwrgleriaeth, rwy'n cael trafferth cysgu, rwy'n deffro ac yn cael ôl-flachiadau lle byddaf yn dechrau meddwl am y fwrgleriaeth. Byddaf yn mynd i banig, ac yn poeni y gallai rhywun fod wedi brifo'n ddifrifol neu, yn waeth, gallai ddigwydd eto.”
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Matthew Evans, o Heddlu De Cymru: “Byddwn yn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael, yn cynnwys Adnabod Wynebau Ôl-weithredol a'r cyfryngau cymdeithasol i adnabod a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell, fel y mae'r achos hwn yn ei ddangos.
“Diolch i bawb sydd wedi cysylltu â gwybodaeth.
"Gobeithio y bydd canlyniad ein hymchwiliad yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwyr, yn arbennig y wraig o Sblot a'i theulu, ac yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned ehangach o'n hymrwymiad i ymchwilio i fwrgleriaethau.”
Pennawd: Gwnaeth aelodau o'r cyhoedd adnabod Laver o'r llun hwn o ddeunydd Teledu Cylch Cyfyng a gafodd ei ddefnyddio fel rhan o apêl am wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.