Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr wedi'i wahardd a geisiodd ffoi mewn ffordd beryglus wrth i'r heddlu ei ymlid drwy strydoedd Caerdydd wedi'i garcharu.
Gwnaeth Nathan Krishnan, 42 oed, ddwyn BMW o'r tu allan i dŷ ar Princess Street, y Rhath, yn ystod oriau mân bore Sul 8 Medi.
Rhoddodd berchennog y car wybod i'r heddlu a thua hanner awr yn ddiweddarach, gwelodd swyddogion mewn car heddlu heb ei farcio y BMW yn cael ei yrru ar hyd Lansdowne Road.
Dilynodd y swyddogion y BMW i Beechley Drive nes iddo stopio. Daeth y swyddogion ochr yn ochr â'r car a gweiddi i Krishnan ddiffodd yr injan ond gyrrodd i ffwrdd yn gyflym rhag y swyddogion a dechreuwyd ei ymlid.
Gyrrodd Krishnan yn beryglus drwy strydoedd Pentre-baen a'r Tyllgoed, gan gyrraedd cyflymder o hyd at 83mya.
Ychydig funudau wedyn, daeth yr ymlid i ben pan yrrodd Krishnan yn syth i mewn i lwyn, lle mae Pentrebane Road yn fforchio i Croft-Y-Genau Road a St Brides Road.
Cafodd ei arestio ac aethpwyd ag ef i'r ddalfa, lle cafodd ei gyhuddo o wrthod stopio, dwyn cerbyd gwaethygedig, gyrru'n beryglus, gyrru tra roedd wedi'i wahardd, a gyrru heb yswiriant.
Plediodd Nathan Krishnan o Dyfrig House, Glan yr Afon, yn euog i'r holl droseddau a chafodd ei garcharu am 30 wythnos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 29 Tachwedd.
Gwyliwch wrth i Krishnan yrru ar gyflymder o hyd at 84mya drwy strydoedd Gorllewin Caerdydd:
Llun o Nathan Krishnan yn nalfa'r heddlu.