Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ditectifs wedi dod o hyd i wybodaeth newydd yn yr ymchwiliad i ddiflaniad menyw o Gaerdydd, Charlene Hobbs.
Mae llun a dynnwyd ar ffôn symudol wedi cadarnhau bod Charlene mewn eiddo yn Broadway, Adamsdown, ar 24 Gorffennaf 2024.
Gellir gweld torch gwallt Charlene a'i thatŵ nodedig o ddraig, ac mae'n gwisgo'r un top heb strapiau fel y diwrnod blaenorol pan gafodd ei gweld ar deledu cylch cyfyng yn Morrisons yn Moira Place, Adamsdown.
Mae swyddogion hefyd yn ymchwilio i gysylltiad â'r Fenni a Nissan Micra coch anarferol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, o Heddlu De Cymru: “Mae Charlene yn fam, yn chwaer, yn ferch ac yn ffrind i lawer. Fel ninnau, maen nhw i gyd yn bryderus iawn am ei lles ac yn awyddus iawn i gael atebion.
"Mae nifer o esboniadau posibl am ddiflaniad Charlene, ac rydym yn cadw meddwl agored wrth i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ganfod beth sydd wedi digwydd iddi.”
Cadarnhawyd i'r llun newydd o Charlene gael ei dynnu yn Broadway am 6.07am ar 24 Gorffennaf.
Mae dadansoddiad pellach o'i ffôn symudol yn dangos bod Charlene o bosibl yn anfon negeseuon testun ac yn ffonio pobl a oedd yn ei hadnabod yn ddiweddarach ar y noson honno, er mwyn cwrdd o bosibl.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Powell: “Rydym yn apelio am i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y galwadau a'r negeseuon hyn, neu sydd wedi cwrdd â Charlene ar noson 24 Gorffennaf 2024, gysylltu â ni.
“Credwn fod yr atebion yn y gymuned a hoffem annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.”
Ers cael gwybod bod Charlene, 35 oed, o Lan yr Afon ar goll, mae swyddogion wedi cynnal amrywiaeth o ymholiadau gan gynnwys chwiliadau mewn sawl cyfeiriad, eiddo gwag, cerbydau, ac ardaloedd o dir agored yng Nghaerdydd ac yna yn y Fenni.
Mae un o'r cerbydau a atafaelwyd yn Nissan Micra anarferol, a ganfuwyd yn St Helen's Close, y Fenni ar 29 Hydref. Roedd y car hwn, a ganfuwyd mewn cyflwr wedi'i losgi, yn goch yn wreiddiol ond roedd y rhan fwyaf ohono wedi cael ei baentio'n ddu.
Mae dau ddyn 45 a 43 oed a menyw 38 oed, a arestiwyd mewn cysylltiad â'r ymchwiliad, wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth nes bod ymchwiliadau pellach wedi cael eu cwblhau
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400353044.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo oddi ar ddyfeisiau fel ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B95-PO1
Neu:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Llun ffôn symudol o eiddo yn Broadway.
Fideo teledu cylch cyfyng o Morrisons Local, Adamsdown.
Llun diweddar