Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd unigolyn 46 oed o Bontypridd ei dedfrydu ddydd Iau 12 Rhagfyr i wyth mlynedd a thri mis yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr ar ôl pledio'n euog i glwyfo'n fwriadol yn Llys y Goron Caerdydd ar 7 Hydref.
Ar 18 Mehefin, ymosododd Rayla Milne yn greulon a di-sail ar ddyn 58 oed yr oedd Milne wedi cwrdd ag ef am y tro cyntaf y bore hwnnw.
Tua 8.15am roedd y dioddefwr yn cerdded adref pan sylwodd ar Milne. Roedd y ddau ohonynt yn eistedd yn yfed mewn lôn rhwng y Gwasanaeth Prawf a Kwik Fit. Tua 9.10am, dechreuodd Milne weiddi'n ymosodol ar y dioddefwr a oedd yn eistedd yn dawel ar y llawr. Yna gwnaeth Milne daro a phwnio'r dyn yn ei wyneb a'i ben sawl gwaith, gan ei wneud yn anymwybodol dros dro. Lansiodd Milne ymosodiad creulon, ffyrnig a di-sail a barodd tua 4 munud pan gafodd y dioddefwr ei gicio a'i bwnio yn ei ben. Tynnwyd Milne oddi ar y dioddefwr gan bobl a oedd yn mynd heibio cyn i swyddogion gyrraedd a'i arestio.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Georgina Prince: “Roedd hwn yn ymosodiad erchyll a threisgar ar ddyn diniwed, caredig a di-fai nad oedd ganddo unrhyw syniad o'r hyn a oedd am ddigwydd.
“Mae Rayla Milne yn amlwg yn berygl i gymdeithas, ac rwy'n croesawu'r ddedfryd a roddwyd. Ni chaiff trais o'r math hwn ei oddef, a byddwn yn rhoi'r rhai sy'n cyflawni'r math hwn o drosedd gerbron y Llysoedd”.