Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae uned ymchwiliadau i wrthdrawiadau difrifol Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a ddigwyddodd am 06:05 ddydd Gwener 3 Mai 2024 ar yr A48 yn Sain Nicolas, Bro Morgannwg.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys un cerbyd Ford Fiesta gwyrdd.
Aethpwyd â menyw 20 oed i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y gwrthdrawiad. Bu farw o'i hanafiadau ar 20 Mehefin 2024. Mae wedi'i henwi fel Helna Marie Siby o India.
Mae'r teulu yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol ac wedi talu'r deyrnged ganlynol:
“Roedd Helna yn ferch, chwaer ac aelod annwyl o'i theulu a oedd yn cael ei charu gan bawb a oedd yn ei hadnabod.
“Roedd yn rhagori yn ei hastudiaethau ac enillodd ysgoloriaeth gan Brifysgol De Cymru a chyrhaeddodd y DU y mis Mawrth hwn i ddilyn gyrfa mewn nyrsio.
“Roedd yn fenyw ifanc uchelgeisiol a'i nod oedd cyrraedd yr uchelfannau mewn bywyd, ond mae bellach wedi cael ei chymryd oddi wrthym yn rhy gynnar o lawer.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y chwe wythnos diwethaf, o'r holl wasanaethau brys a oedd yn bresennol ar y safle i Brifysgol De Cymru, a hoffem gydnabod yr holl gefnogaeth rydym wedi ei chael gan y gymuned Malayali yng Nghaerdydd. Mae eich cariad a'ch caredigrwydd wedi ein cyffwrdd yn ystod y cyfnod trist hwn.
“Yn olaf, hoffem ni fel teulu ddiolch o waelod calon i bob aelod o staff Uned Gofal Dwys, Ward B4 Ysbyty Athrofaol Cymru, a geisiodd eu gorau glas bob dydd i roi'r cyfle gorau iddi.
“Roedd Helna am fod yn nyrs a gallwn bellach weld pam ei bod wedi cael ei denu at eich proffesiwn. Mae pob un ohonoch yn angylion ar y ddaear ac ni fyddwn yn anghofio am y tosturi y gwnaethoch ei ddangos i ni.
“Prin yw'r geiriau sydd gennym ac ni allwn fynegi ein hartaith wrth i ni barhau i'w chael hi'n anodd dod i delerau â'r realiti o'i cholli mor ifanc.
“Ni allai unrhyw beth ddisodli'r gwacter y mae wedi'i adael a bydd yn cael ei charu, ei chofio a'i cholli bob diwrnod o'n bywydau.”
Hoffai Heddlu De Cymru siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, a stopiodd i helpu neu unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar yr adeg a all fod â gwybodaeth am y gwrthdrawiad neu'r ffordd yr oedd yr unigolyn yn gyrru ar adeg y gwrthdrawiad drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2400142870.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd.