Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddwyd teyrnged o'r galon i feiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddoe.
Bu farw Dean Williams, 53 oed, oherwydd anafiadau a gafodd yn y digwyddiad ar Church Road, Ton Pentre, yn fuan ar ôl 6am ddydd Gwener, 7 Mehefin.
Mewn teyrnged gan y teulu, dywedodd gwraig Dean, Laura:
“Gŵr cariadus, tad, taid annwyl, brawd, brawd yng nghyfraith, ewythr a dadi i'r anifeiliaid anwes.
“Bu farw fy ngŵr hyfryd yn ystod oriau mân fore Gwener mewn gwrthdrawiad ffordd, wrth reidio'r cerbyd yr oedd yn ei garu.
“Roedd yn angerddol am dri pheth yn ei fywyd: ei deulu, ei feiciau modur a'r gampfa. Roedd yn fachgen hoffus iawn o Drealaw a bydd colled enfawr ar ei ôl.
“Fel teulu hoffem ddiolch i bawb am eu geiriau caredig. Byddwch yn amyneddgar wrth i ni ddod i delerau â'i farwolaeth drasig, a byddwn yn ymateb i bawb maes o law. Diolch, Laura a'r teulu.”
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad un cerbyd, a oedd yn cynnwys beic modur Suzuki du.
Hoffem glywed gan unrhyw un a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd o'r ddigwyddiad.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a all helpu'r ymchwiliad gysylltu â ni drwy un o'r dulliau, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400187127:
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw, ar 0800 555 111, neu drwy: https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form