Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mae chwe unigolyn arall wedi cael eu dedfrydu am fod yn rhan o grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn cael ei redeg gan ddau frawd yn y Rhondda.
Cafodd Thomas Davies, 38 oed, a Jack Davies, 37 oed, y ddau ohonynt o Buckley Road, Trealaw, eu carcharu yn gynharach yn y flwyddyn.
Ddydd Gwener 21 Mehefin, cafodd y chwe diffynnydd a oedd yn weddill eu dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd i gyfanswm o 37 o flynyddoedd a 10 mis.
Mae cyfanswm o naw diffynnydd bellach wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 71 o flynyddoedd a phum mis am eu rolau mewn cynllwyn teuluol ar raddfa fawr i gyflenwi cocên.
Dechreuodd y broses o roi terfyn ar eu hymgyrch anghyfreithlon ar 23 Gorffennaf 2020, pan gafodd Gavin Etchell ei stopio gan yr heddlu ar yr A40 yn Nhrefynwy am fater gwahanol. Dangosodd data a lawrlwythwyd o'r dyfeisiau a atafaelwyd ganddo ar y pryd, ei fod yn cyflenwi cocên ar ran Thomas Davies.
Ar 9 Chwefror 2021, gweithredodd swyddogion nifer o warantau chwilio yn targedu'r brodyr Davies, gan ddatgelu ffatri gyffuriau a oedd yn gweithredu o garej ar Partridge Road, Trealaw. Atafaelwyd dros ddau gilogram o gocên, 50 cilogram o gyfrwng torri, cywasgyddion cyffuriau hydrolig a pheiriannau cymysgu. Roedd y garej yn cael ei rentu gan Thomas a Jack am £50 y mis a oedd yn cael ei hwyluso gan eu tad, Byron Davies.
Mater teuluol:
Jacqueline Davies, 59 oed, o Buckley Road, Trealaw, Tonypandy – 2 flynedd
Byron Davies, 66 oed, o Heol Trecastell, Caerffili – Blwyddyn a 7 mis wedi'i gohirio am 2 flynedd
Scott Headley Alway, 35 oed, o Heather Close, Trealaw, Tonypandy – 9 mlynedd
Steven John Evans, 38 oed, o Trealaw Road, Trealaw, Tonypandy – 8 mlynedd a 9 mis (ynghyd â blwyddyn i gydredeg)
Gavin Hayward Etchell, 42 oed, yn CEF y Parc ar hyn o bryd – 8 mlynedd
Christopher Adams, 39 oed, o Kenry Street, Tonypandy – 8 mlynedd a 6 mis
Thomas Davies, 38 oed, o Buckley Road, Trealaw, Tonypandy – 16 mlynedd (ynghyd â 8 mlynedd i gydredeg)
Jack Davies, 37 oed, o Buckley Road, Trealaw, Tonypandy – 13 blynedd a 7 mis (ynghyd â 6 blynedd i gydredeg)
Nicole Caroline Locke, 31 oed, o Pergwm Street, Trealaw, Tonypandy
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lewis Watkins:
“Roedd pob un o'r naw aelod yn bobl allweddol yn y gadwyn cyflenwi cyffuriau hon ac rwyf mor falch ein bod wedi gallu eu dedfrydu am eu troseddau a sicrhau nad ydynt bellach yn rhan o'n cymunedau.
“Mae'r dedfrydau sydd wedi'u cyflwyno yn anfon neges gref nad oes gan gyffuriau na grwpiau troseddau cyfundrefnol unrhyw le yn ein cymunedau. Nid yn unig rydym wedi gallu amharu ar y grŵp troseddau cyfundrefnol hwn a'i weithredoedd, rydym hefyd wedi gallu tynnu swm sylweddol o gyffuriau oddi ar y strydoedd.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i amddiffyn ein cymunedau ac mae llwyddiant yr ymgyrch hon yn dangos y byddwn yn defnyddio pob tacteg angenrheidiol i dargedu grwpiau troseddau cyfundrefnol a'r rhai sy'n ymgymryd â gweithgarwch llwgr, twyll a gwyngalchu arian."