Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae protestiadau yn digwydd bob wythnos yng nghanol dinas Caerdydd a dinas Abertawe mewn perthynas â'r gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol.
Mae ymateb yr heddlu ar waith er mwyn sicrhau y gall aelodau o'r cyhoedd fynd ynglŷn â'u pethau yn ddiogel.
Nod ein hymgyrch plismona yw hwyluso protestio heddychlon, gan sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd yn fwy cyffredinol.
Mae plismona protestiadau yn gymhleth, yn enwedig pan fo miloedd o bobl ychwanegol yn ymweld â chanol y dinasoedd ar benwythnosau ac ar gyfer digwyddiadau mawr.
Mae Heddlu De Cymru yn cefnogi hawl pobl i leisio eu barn drwy brotestio ar yr amod eu bod yn gwneud hynny yn gyfreithlon. Mae penderfyniadau ynghylch sut i blismona protestiadau yn gofyn am ystyried hawliau a materion cymhleth sydd, yn aml, yn mynd yn groes i'w gilydd.
Nod ein presenoldeb plismona yw sicrhau y gall pawb fynd ynglŷn â'u pethau yn ddiogel a bod unrhyw brotestio yn gyfreithlon ac yn heddychlon.
Caiff Swyddogion Cyswllt yr Heddlu, y gellir eu hadnabod gan eu tabardiau cyswllt protest glas, eu defnyddio i ymgysylltu â'r bobl sy'n cymryd rhan yn y brotest.
Mae'r swyddogion hyn wedi cael hyfforddiant arbenigol i ymgysylltu â thorfeydd a sicrhau bod gwybodaeth yn llifo rhwng swyddogion yr heddlu, aelodau o'r dorf ac unigolion eraill drwy gydol y digwyddiad er mwyn helpu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel a chynnal protest heddychlon yn effeithiol. Rydym yn annog y rhai sy'n cymryd rhan yn y protestiadau i ymgysylltu â'r swyddogion hyn er mwyn i ni ddeall eu bwriadau a'u pryderon. Gallwn eu helpu wedyn i hwyluso eu protest mewn ffordd lle gellir clywed eu llais, ond lle caiff anghenion y gymuned ehangach hefyd eu hystyried.
Rydym yn ymwybodol y gall y gwrthdaro sy'n mynd rhagddo yn y Dwyrain Canol a'r protestio rydym wedi'i weld yng Nghaerdydd ac Abertawe gyfrannu at ofn a phryder, yn enwedig ymhlith ein cymunedau Iddewig a Mwslimaidd. Gall gweld protestio ar raddfa fawr hefyd godi ofn ar aelodau o'r cyhoedd sy'n digwydd bod yn y cyffiniau fel rhan o'u bywyd bob dydd.
Dyna pam rydym yn ceisio sicrhau cydbwysedd o ran ein dull plismona a chymryd camau er mwyn sicrhau bod hawliau pawb yn cael eu parchu a'u diogelu. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy'n torri'r gyfraith, boed hynny ar adeg y drosedd neu wedi hynny.
Mae Heddlu De Cymru yn fwy na pharod i drafod a chydweithio â grwpiau eirioli er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch ein dulliau o blismona protest ac er mwyn sicrhau bod arferion plismona yn adlewyrchu gwerthoedd tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder.