Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tafarndai a chlybiau yng nghanol dinas Caerdydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mew trosedd, diolch i fenter diogelwch newydd.
Mae dros 20 o leoliadau wedi bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ar Fenter Trwyddedu Diogelwch a Bregusrwydd (Licensing SAVI) dros y 12 mis diwethaf,
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r canlynol wedi lleihau:
30% yn llai o ymosodiadau rhywiol
30% yn llai o ymosodiadau ag anafiadau
23% yn llai o achosion meddw ac afreolus
Nod y cynllun a gefnogir gan y Swyddfa Gartref yw rhoi cyngor ac arweiniad i leoliadau er mwyn darparu amgylchedd croesawgar a mwy diogel.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2023, a gobeithio y bydd mwy o leoliadau trwyddedig nawr yn cofrestru â Licensing SAVI.
Dywedodd yr Arolygydd Justin Hardwick, o Heddlu De Cymru:
“Mae gan Gaerdydd hanes ardderchog o weithio mewn partneriaeth sydd wedi helpu i sicrhau bod ei heconomi liw nos yn ddiogel yn ogystal â bywiog a chroesawgar.
“Caiff rhai o'r ymyriadau a ddefnyddir yng nghanol y ddinas eu hystyried yn enghreifftiau o arfer dda ac maent wedi cael eu mabwysiadu gan heddluoedd eraill.
“Dim ond un o'r ffyrdd y mae busnesau yn yr economi liw nos yn helpu i leihau troseddau ac anhrefn, ac i gadw Caerdydd yn ddiogel, yw Licensing SAVI.”
Am ragor o wybodaeth ewch i www.licensingsavi.com