Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyrrodd Patryk Kantor 120 o filltiroedd i gwrdd â'r ferch mewn parc yn agos at ei chartref, a'i gyrru i eiddo Airbnb.
Yn y sgyrsiau ar-lein, roedd wedi esgus ei fod yn 17 oed ond mewn gwirionedd roedd yn 25 oed.
Mam y ferch a hysbysodd yr heddlu, gan ei bod yn poeni am sylwadau a wnaed ganddi.
Cafodd Kantor ei arestio ar 28 Mawrth 2024, deuddydd ar ôl yr alwad gychwynnol i'r heddlu.
Cafodd ei adnabod a'i arestio diolch i ymholiadau CCTV a gwiriadau adnabod rhifau ceir yn awtomatig a gynhaliwyd ar ei gerbyd.
Plediodd yn euog i ddau achos o weithgarwch rhywiol â phlentyn, achosi ac annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, a chwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol â'r plentyn hwnnw.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 14 Mehefin i gyfnod o bum blynedd yn y carchar. Mae hefyd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol a bydd yn rhaid iddo gydnabod ei hun fel Troseddwr Rhyw Cofrestredig am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Anna Chad Nixon, o Heddlu De Cymru:
“Hoffwn ganmol mam y ferch a weithredodd ar ei hamheuon ac a hysbysodd yr heddlu.
“Dylai'r achos hwn, ac achosion tebyg eraill, atgoffa pawb bod rheibwyr ar-lein sy'n targedu plant.
“Mae ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein mor bwysig, ac mae gan bawb rôl i'w chwarae.
“Os ydych yn amau bod unigolyn yn cael ei dargedu gan rywun ar-lein at bwrpas meithrin perthynas amhriodol ag ef, rhowch wybod am hynny yn syth.”
Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn drosedd. Os ydych yn amau bod unigolyn yn cael ei dargedu gan rywun ar-lein at bwrpas meithrin perthynas amhriodol ag ef, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, dywedwch wrth rywun.
I gael help a chyngor a gwybodaeth am adnabod arwyddion meithrin perthynas amhriodol, ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/gr/meithrin-perthynas-amhriodol/