Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd tua 7.25pm, ddydd Mawrth 25 Mehefin ar y B4265, Llanilltud Fawr, wedi cael ei enwi fel Jason Parker, 42 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr.
Mae teulu Mr Parker wedi rhoi'r deyrnged ganlynol:
“Mae Ceri ac Evan Parker yn cyhoeddi marwolaeth gŵr a thad annwyl, sef Jason Parker, 42 oed, a fu mewn damwain angheuol nos Fawrth 25 Mehefin 2024 yn ardal Llanilltud Fawr.
“Mae Ceri ac Evan yn ymwybodol o'r loes a'r gofid i'w ffrindiau a'i gyd-yrwyr annwyl a oedd gyda Jason ar adeg y digwyddiad trasig hwn.
“Roedd Jason yn ŵr cariadus ac yn dad hyfryd i Evan, Amy, Casey ac Ellie ac yn dad-cu cariadus i Ruben.
“Hoffai Ceri hefyd grybwyll holl ffrindiau Evan a'u rhieni o Ysgol Gyfun Brynteg a Chlwb Rygbi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi bod mor barod i'w cefnogi yn ystod y cyfnod emosiynol anodd hwn.
“Hoffai Ceri hefyd ddiolch i holl aelodau'r gwasanaethau brys a aeth i'r digwyddiad ar y noson, yn ogystal â Swyddogion Cyswllt Teuluol Heddlu De Cymru a'r cyhoedd yn ehangach am eu holl gymorth a negeseuon caredig.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys un beic modur Aprilia gwyrdd/du a oedd yn teithio i gyfeiriad Sain Tathan.
Rydym yn apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a all fod â deunydd teledu cylch cyfyng o'r digwyddiad neu'r modd yr oedd y beic modur yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â ni, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400210628.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101