Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd dau ddyn ddydd Gwener ddiwethaf, 7 Mehefin yn Llys y Goron Casnewydd am dros 15 mlynedd am gyflenwi cyffuriau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cafodd y ddau eu cael yn euog o gyflenwi cyffuriau dosbarth A, Cocên ameddu ar gyffuriau dosbarth A a B gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Brynhawn ddydd Gwener Rhagfyr 15, 2023, nodwyd cerbyd oedd yn gysylltiedig ag Ymgyrch Falmouth yn dychwelyd o Lerpwl i Dde Cymru. Roedd y cerbyd yn destun stop gorfodol gan swyddogion.
Cafodd Rhys Cox, y gyrrwr, ei ddal i ddechrau wrth i swyddogion gynnal chwiliad o'r cerbyd ac yn ystod y chwiliad hwnnw canfuwyd 10 cilo o gocên.
Cynhaliwyd ymholiadau am y cerbyd, yn ogystal â chwiliadau dilynol o'r safleoedd a oedd yn gysylltiedig â Rhys Cox ac Owen Morgan. Arweiniodd hyn at adfer mwy o gyffuriau dosbarth A yn ogystal â swm o gyffuriau Dosbarth B, canabis a gwasg hydrolig a mowldiau maint cilo.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Geoff Banks:
"Un o achosion Uned Ymchwiliadau Cudd yw Ymgyrch Falmouth yn ymchwilio i gyflenwi a dosbarthu cyffuriau Dosbarth A yn rhanbarth De Cymru.
"Rwy'n gobeithio y bydd y dedfrydau hyn yn gweithredu i atali eraill ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r cyhoedd y byddwn yn ymchwilio i bob gweithgarwch sy'n ymwneud â chyffuriau yn drylwyr er mwyn dwyn troseddwyr gerbron eu gwell a diogelu ein cymunedau rhag niwed.
"Mae cyffuriau anghyfreithlon yn peri gofid nid yn unig i'r rhai sy'n eu defnyddio, ond hefyd i'r gymuned leol."
![]() |
![]() |