Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu hanfon i'r carchar am gyfanswm o 16 mlynedd ar ôl eu cael yn euog o ladrad treisgar a ddigwyddodd ym mis Chwefror eleni yng nghanol Caerdydd.
Tua 10.00pm ar 16 Chwefror, roedd dyn 63 oed yn beicio ar hyd Tudor Road pan ymosododd tri dyn arno a'i lusgo oddi ar ei feic, ymosod arno a dwyn ei feic.
Erbyn diwedd y mis roedd y tri unigolyn wedi cael eu harestio a'u cyhuddo o ladrata ac am ymosod.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Craig Pearce o adran ymchwiliadau troseddol (CID) y Tyllgoed: "Rwy'n falch bod y mater wedi bod gerbron y llys a bod y troseddwyr wedi'u hadnabod a'u dedfrydu i garchar.
"Dangosodd y dioddefwr ddewrder aruthrol wrth gysylltu â ni a thrwy wneud hynny fe'n galluogodd i gadw'r gymuned leol yn ddiogel.
"Ni chaiff ymddygiad o'r fath ei oddef. Cynhelir ymchwiliad a bydd y rhai sy'n gyfrifol yn cael dwyn gerbron y Llys er mwyn wynebu cyfiawnder."
Dedfrydwyd Joshua Kelly, 30 oed o'r Barri, Tyrone Spriggs, 31 oed o Gaerdydd a Rhys Geisheimer, 28 oed, hefyd o'r Barri, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 30 Mai.
Cafodd Kelly ddedfryd o ddeg mlynedd yn y carchar a chafodd Spriggs a Geisheimer eu hanfon i'r carchar am dair blynedd yr un.