Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae heddiw (dydd Iau 6 Mehefin) yn nodi 80 mlynedd ers D-Day, pan laniodd lluoedd tir, awyr a môr y byddinoedd cynghreiriol ar draethau Normandi er mwyn ymsefydlu ar y glannau yn Ffrainc a oedd, bryd hynny, ym meddiant y Natsïaid.
Roedd y glaniadau hynny yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd, ond collwyd llawer o fywydau. Bu farw miloedd o filwyr cynghreiriol ar faes y gad y diwrnod hwnnw a chafodd miloedd eu hanafu.
Yn ystod Brwydr Normandi a ddilynodd, bu farw dros 70,000 o filwyr o'r byddinoedd cynghreiriol, gan gynnwys tri swyddog heddlu o dde Cymru, sef Cwnstabl Gwirfoddol Alfred John Went (Y Gatrawd Gymreig) a Chwnstabl Milwyr wrth Gefn yr Heddlu William Vincent Jones (y Gwarchodlu Cymreig), y ddau ohonynt o Gwnstabliaeth Morgannwg, a Chwnstabl Walter Bernard England (Y Corfflu Arfog Brenhinol) o Heddlu Dinas Caerdydd.
Y llynedd, aeth cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru i ymweld â Mynwent a Chofeb Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Bayeux, lle cafodd England ei goffáu a lle claddwyd Jones, a Mynwent Ryes y Comisiwn, lle claddwyd Went, gan osod croesau er anrhydedd iddynt.
Ar yr achlysur hwn, rydym yn talu teyrnged i ddewrder y rhai hynny a laniodd yn Normandi ac yn cofio am yr holl rai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ni chaiff eu dewrder na'u haberth fyth fynd yn angof.