Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiodd swyddogion Heddlu De Cymru, gan weithio'n agos â Heddlu Glannau Mersi, ymgyrch y mis hwn i fynd i'r afael â masnachu cyffuriau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Cafodd y fenter dan arweiniad cudd-wybodaeth – dan y ffugenw Medusa – ei sefydlu i fynd i'r afael â Llinellau Cyffuriau – gangiau troseddol sy'n cyflenwi cyffuriau gan ddefnyddio llinellau ffonau symudol penodol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Cafodd camau gorfodi eu cymryd yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd ar 10 ac 11 Medi, gan arwain at y canlyniadau canlynol:
roedd 5 Llinell Cyffuriau Negeseuon Swmpus yn destun camau gorfodi.
arestio 24 o unigolion am droseddau yn ymwneud â chyffuriau, gan gynnwys cyflenwi, gyda chyfanswm o 13 o gyhuddiadau hyd yma gyda sawl ymchwiliad yn parhau.
atafaelu 4 arf, gan gynnwys 3 eitem lafnog.
atafaelu 10 o gerbydau
atafaelu arian parod gwerth £3,000
atgyfeirio un plentyn at wasanaethau Diogelu am ei fod yn wynebu risg o niwed.
atafaelu 48 o ffonau symudol oddi ar droseddwyr yr amheuwyd eu bod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.
atafaelu gwerth dros £5000 o gyffuriau gan gynnwys heroin a chrac cocên.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd Marc Gardner:
"Mae'r niferoedd yn dangos graddfa'r broblem sy'n effeithio ar gymunedau yn Ne Cymru, ac mae ein hymdrechion i nodi a chosbi'r rhai sy'n achosi niwed ac i ddiogelu'r rhai sy'n wynebu risg yn parhau.
"Mae cyffuriau a throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn hynod niweidiol i'n cymunedau, ac mae ymgyrchoedd fel hon yn hanfodol er mwyn targedu'r rhai sy'n gyfrifol.
"Mae Ymgyrch Medusa yn ymgyrch ragweithiol uwch sy'n ymrwymedig i fynd i'r afael â rhwydweithiau llinellau cyffuriau sy'n gweithredu yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a'r cyffiniau sy'n parhau i reoli cyffuriau anghyfreithlon a chamfanteisio ar bobl sy'n agored i niwed i wneud elw yn anghyfreithlon, a tharfu ar y rhwydweithiau hyn.
"Mae adnoddau arbenigol wedi cael eu defnyddio i fynd ar ôl unigolion yn ddiflino gyda'r bwriad o arestio unigolion dan amheuaeth, gwaredu cyffuriau a reolir oddi ar y strydoedd a nodi unrhyw sianeli er mwyn tarfu ar y rhai sy'n recriwtio unigolion sy'n agored i niwed ac sydd dan bwysau i gyflawni gweithgarwch o'r fath.
“Rydym wedi gweld drwy Ymgyrch Medusa, bod gweithio ochr yn ochr â heddluoedd eraill yn ein galluogi i rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth i'r eithaf er mwyn targedu troseddwyr, diogelu pobl sy'n agored i niwed ac atal niwed pellach."
Dywedodd yr Arolygydd Stephen Morris o Heddlu Glannau Mersi:
“Mae Prosiect Medusa, tîm llinellau cyffuriau ymroddedig Glannau Mersi, yn parhau i weithio'n agos gyda heddluoedd ac asiantaethau eraill i dargedu Llinellau Cyffuriau ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed.
“Mae'r ymgyrch hon yn Ne Cymru yn dangos y byddwn yn mynd ati'n ddiflino i dargedu'r grwpiau troseddau hynny sy'n cyflenwi cyffuriau ledled y wlad, yn camfanteisio ar bobl sy'n agored i niwed yn ein cymunedau ac yn cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol difrifol megis trais, camfanteisio a cham-drin.
"Bydd ein gwaith i gael gwared ar y bobl hyn oddi ar ein strydoedd a'u dwyn i gyfrif yn parhau yn ddyddiol, a byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y math hwn o weithgarwch i gysylltu â'r heddlu er mwyn gweithredu ar hyn."
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Gardner:
"Ni fyddai'r ymgyrch hon wedi bod yn llwyddiant heb gymorth amrywiaeth eang o bobl eraill yn yr heddlu, gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwasanaethau'r Ddalfa, Dyfodol, Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd, Gwasanaethau Cymorth Gweithredol, a'n Timau Plismona yn y Gymdogaeth.
“Diolch i bawb am gyfrannu at Ymgyrch Medusa.”