Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd dyn 19 oed o Abertawe gerbron Llys y Goron Caerwynt heddiw (Dydd Iau 19 Medi 2024) ar ôl pledio'n euog i droseddau terfysgaeth ac ymosodiad a oedd wedi'u hysgogi gan gasineb ac yn dangos casineb tuag at y dioddefwr ar sail ei hunaniaeth drawsryweddol.
Ymddangosodd dyn 19 oed o Abertawe gerbron Llys y Goron Caerwynt heddiw (Dydd Iau 19 Medi 2024) ar ôl pledio'n euog i droseddau terfysgaeth ac ymosodiad a oedd wedi'u hysgogi gan gasineb ac yn dangos casineb tuag at y dioddefwr ar sail ei hunaniaeth drawsryweddol.
Cafodd Alex Hutton, a oedd wedi'i euogfarnu'n flaenorol am droseddau o dan y Ddeddf Terfysgaeth, ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl i Heddlu De Cymru dderbyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd yn dweud ei fod wedi gweld fideo ar gyfrif Instagram Hutton, lle mae'n honni ei fod wedi cicio unigolyn heb ei adnabod yn ei ben. Roedd y fideo hefyd yn cynnwys delweddau asgell dde eithafol.
Cafodd Hutton ei ddedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis yn y carchar a phum mlynedd ar drwydded.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Leanne Williams, Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru:
“Rydym yn croesawu canlyniad yr achos hwn. Cyflawnodd Alex Hutton, a oedd wedi'i ysgogi gan gasineb, ymosodiad erchyll a di-sail ar ferch ifanc a diamddiffyn mewn parc yn Abertawe un prynhawn ym mis Mai 2023.
“Nid oes amheuaeth y bydd yr ymosodiad hwn yn cael effeithiau parhaus ar y ferch ifanc hon ac rwy'n gobeithio y bydd canlyniad heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur iddi.
“Ymhellach, dangosodd Hutton fwriad clir i rannu ei gasineb ar y rhyngrwyd gan annog gweithredoedd o derfysgaeth. Datgelodd Swyddogion o Blismona Gwrthderfysgaeth Cymru ei weithredoedd yn ystod ymchwiliad manwl, a arweiniodd at yr ymosodiad a ddigwyddodd yn gynharach yn y flwyddyn.
“Rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'r amser yn y ddalfa i fyfyrio ar ei weithredoedd, gyda'r bwriad o fyw bywyd mwy cynhyrchiol o lawer ar ôl iddo gael ei ryddhau.”
Dywedodd Bethan David, Pennaeth Is-adran Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron:
“Mae Alex Hutton yn fwy na ffantasïwr gyda safbwyntiau eithafol – mae'n ddyn ifanc peryglus.
“Roedd ei ymosodiad di-sail wedi'i ysgogi gan gasineb ac mae'n peri risg sylweddol i grwpiau eraill ac ar y gymdeithas gyfan.
“Bu'n dathlu gweithredoedd terfysgaeth grwpiau goruchafiaeth wen gan annog ei ffrindiau a'i gydnabod ar wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a negesu i ymuno ag ef a'i safbwyntiau eithafol ac annymunol.
“Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron bob amser yn erlyn y sawl sy'n annog gweithredoedd o derfysgaeth a chasineb er mwyn amddiffyn y cyhoedd.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Lindsey Sweeney o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn falch o ganlyniad yr ymchwiliad hwn, sef achos a oedd yn cynnwys Trosedd Casineb ddisynnwyr a threisgar. Hoffem roi sicrwydd i'r gymuned na chaiff ymddygiad fel hyn ei oddef yn ein hardal ni, ac y caiff y troseddwyr yn cael eu hadnabod, eu harestio a'u hanfon yn briodol i'r carchar.
“Yma yn Abertawe, mae gennym ddinas amlddiwylliannol wych ac amlygwyd hynny mewn cyfres o ddigwyddiadau ardderchog a oedd yn cynnwys y gymuned gyfan dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Yn Heddlu De Cymru, rydym yn gweithio bob dydd i sicrhau bod y ddinas yn lle diogel a chroesawgar i bobl o bob cefndir.”
Dylai unrhyw un sy'n gweld neu'n clywed rhywbeth a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth weithredu ar ei reddf a ffonio'r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Ewch i gov.uk/ACT am ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i roi gwybod am gynnwys terfysgol neu eithafol sy'n ymddangos ar-lein.