Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Shaun Gwyther, 26 oed, o ardal Mayhill yn Abertawe, ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis o garchar am droseddau lluosog yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher 28 Awst 2024, ar ôl pledio'n euog i'r holl droseddau.
Ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2024, aeth swyddogion i gyfeiriad yn Abertawe gyda'r bwriad o arestio Shaun Gwyther. Wrth iddynt gyrraedd y cyfeiriad, gwelodd y swyddogion Gwyther yn dod allan o'i gartref ac yn croesi'r ffordd i'r lôn gyferbyn.
Gadawodd y swyddogion eu cerbyd a dilyn Gwyther i'r lôn lle cafodd ei ddal a'i arestio. Yn ystod yr arestiad, gwelwyd bod gan Gwyther dau fag o gocên yn ei ddwylo a ollyngodd ar y llawr i geisio eu cuddio. Roedd ganddo hefyd ffôn dros dro yn ei boced.
Aeth y swyddogion â Gwyther yn ôl i gyfeiriad ei gartref lle dywedodd, “Rwyf wedi cael fy nal”. Daethpwyd o hyd i fwy na 700 gram o gocên i fyny'r grisiau yn ei ystafell wely, ynghyd ag £8,000 o dan ei wely a £900 yn ei waled.
Dangosodd y swm o arian parod a chocên fod Gwyther yn chwarae rôl sylweddol yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Thomas Richardson: “Gwnaethom ddal Gwyther pan wnaethom ei arestio y tu allan i'w dŷ. Nid oes lle i'r swm hwn o gocên nac unrhyw gyffur arall yn ein cymunedau. Bydd ganddo amser nawr i fyfyrio ar ei benderfyniadau yn y carchar, sef y lle priodol i unrhyw un sy'n delio cyffuriau".
Cafodd Gwyther ei ddedfrydu i'r canlynol, Bod â chyffuriau Dosbarth A (Cocên) yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ymwneud â chyflenwi cocên a meddu ar eiddo troseddol.