Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw 27 oed wedi ei charcharu ar ôl i'r car yr oedd hi'n ei yrru taro beiciwr – a gollodd goes o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Yn ddiweddarach, gwerthodd Savannah Roberts, o Benarth, ei char mewn ymgais i guddio'i rôl yn y digwyddiad, a ddigwyddodd yn oriau mân ddydd Gwener, Awst 5, 2022.
Tarodd Savannah feiciwr gyda'i Ford Fiesta wrth iddi yrru ar hyd Heol Penarth, Caerdydd. Cwympodd y beiciwr oddi ar ei feic gydag anafiadau difrifol. Stopiodd Savannah a dychwelyd at y dioddefwr ond wedyn gyrrodd i ffwrdd, gan adael y dioddefwr yn gorwedd ar ochr y ffordd yn gofyn am help.
Cafodd y dioddefwr ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac wedyn i Ysbyty Treforys yn Abertawe, lle yn anffodus bu'n rhaid torri ei goes i ffwrdd.
Ar ôl y ddamwain, gwerthodd Savannah y car i geisio cuddio unrhyw gysylltiad rhyngddi hi a'r ddamwain, ond yn dilyn gwiriadau teledu cylch cyfyng, gwaith fforensig ac ymholiadau eraill gan swyddogion, cysylltwyd y car â Savannah a chafodd ei harestio ar ôl ei gweld yn gyrru drwy olau coch.
Yn ystod ei chyfweliad, atebodd Savannah bob cwestiwn gyda "dim sylw". Cafodd Savannah Roberts, 27 oed, o Benarth ei charcharu am 3 blynedd a 9 mis am achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 5 Medi 2024.