Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Medi 2014, roedd llygaid y byd ar Gymru wrth i Benaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau ymweld ar gyfer yr Uwchgynhadledd NATO. O ganlyniad i'r achlysur trefnwyd ymgyrch blismona enfawr na welwyd ei bath yng Nghymru. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, edrychwn yn ôl ar lwyddiant y digwyddiad a'n rôl wrth helpu i gadw'r Uwchgynhadledd yn ddiogel i bawb.
Wedi'i chynnal yng Nghasnewydd, ond gyda digwyddiadau cysylltiedig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, rhoddodd Uwchgynhadledd NATO 2014 lwyfan i arweinwyr y byd drafod materion brys ynghylch diogelwch byd eang a thrwy hynny, gryfhau cydberthnasau trawsatlantig rhwng gwledydd.
Roedd yr ymgyrch blismona mewn perthynas â'r Uwchgynhadledd yn cynnwys dros 9,000 o swyddogion yr heddlu o heddluoedd ledled y DU a gwnaeth y mesurau diogelwch a roddwyd ar waith gymryd misoedd i'w cynllunio ac yn rhai nas gwelwyd eu tebyg gan gymunedau yn ne Cymru o'r blaen.
Daeth heddlu arfog, yn ogystal â swyddogion ar gefn ceffylau, beiciau ac ar droed yn olygfa gyfarwydd iawn ledled Casnewydd a Chaerdydd yn ystod yr achlysur ac roedd cychod patrolio o wledydd ledled Ewrop yn amddiffyn Bae Caerdydd.
Cafodd deuddeg milltir o ffensys diogelwch eu codi cyn y digwyddiad, ac roeddent yn ymestyn drwy Gasnewydd a Chaerdydd lle cynhaliwyd digwyddiadau'r Uwchgynhadledd.
Yn ystod y digwyddiadau, rhoddodd Heddlu De Cymru gymorth i Heddlu Gwent ac ymgymryd â'r trefniadau plismona ar gyfer digwyddiadau cysylltiedig a gynhaliwyd yn y brif ddinas, a oedd yn cynnwys cinio'r Penaethiaid Gwladwriaethau yng Nghastell Caerdydd a chinio anffurfiol ar gyfer y Gweinidogion Materion Tramor a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ar ôl yr Uwchgynhadledd, cafodd yr heddlu ei ganmol, nid yn unig am helpu i gynllunio a sicrhau digwyddiad diogel, ond hefyd am y ffordd y cydweithiodd â heddluoedd eraill i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac i ymgysylltu â chymunedau lleol.
Ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal yn falch o'r rôl y gwnaethom ei chwarae yn Uwchgynhadledd NATO 2014 a'r enghraifft a osodwyd ar gyfer cydweithio ar raddfa enfawr.