Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae naw dyn a dwy fenyw, a oedd yn aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol, wedi cael eu hanfon i'r carchar am bron i 80 mlynedd mewn gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Ymgyrch dan arweinyddiaeth Tarian, sef yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, oedd Ymgyrch Vemtor, mewn perthynas â grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd wedi'i leoli ym Merthyr Tudful ac a oedd yn ymwneud â dosbarthu Heroin a Chocên ar raddfa enfawr ledled de Cymru.
Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelwyd bron i 10 cilogram o gocên a 5 cilogram o heroin, gyda gwerth posibl ar y stryd o fwy na £1.5m.
Roedd y grŵp troseddau cyfundrefnol yn cael ei arwain gan ddyn lleol o'r enw Kerry Evans, a oedd yn cael gafael ar ei gyffuriau o Ogledd-orllewin Lloegr. Dangosodd tystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad fod Evans wedi ymwneud â chyflenwi mwy na 150 cilogram o heroin a chocên.
Hefyd, casglwyd tystiolaeth a oedd yn dangos bod Evans wedi brolio iddo gyflenwi tua 600 cilogram o gyffuriau a reolir mewn cyfnod o 12 mis.
Roedd Lloyd Jones, Ricky Griffiths a Christopher Wray yn cael eu cyfarwyddo gan Evans a nhw oedd yn gyfrifol am reoli'r busnes troseddol yn ardal Merthyr Tudful.
Rôl Claire James o fewn y grŵp troseddau cyfundrefnol oedd defnyddio ei chartref fel ‘lle diogel’ er mwyn storio cyffuriau.
Gweithredodd Alex Davies a Leon Owen fel cludwyr gan deithio i Ogledd Lloegr i gludo arian parod ar ran Kerry Evans.
Roedd David Halliwell wedi'i leoli yn ardal Bolton ac yn cludo cyffuriau i dde Cymru. Ar 16 Mawrth 2023, cludodd Halliwell 10 cilogram o gocên i Ferthyr.
Roedd Jason a Heather Flannigan wedi'u lleoli yn ardal Bolton hefyd. Defnyddiwyd hwy hefyd i gludo'r cyffuriau. Ar 16 Mawrth y llynedd, gwnaethant gludo pum cilogram o heroin i dde Cymru. Roedd tystiolaeth bellach yn dangos mai Jason a Heather Flannigan oedd yn gyfrifol am ddelio cyffuriau ‘stryd’ yn lleol yn Bolton a'r ardaloedd cyfagos.
Mae Asim Syed yn hanu o Enfield yn Llundain. Cludwr arian parod oedd ei rôl ef. Ar 11 Ionawr 2023, cafodd ei arestio ar ôl casglu bron £99,000 o arian parod gan Christopher Wray ym Merthyr Tudful.
Roedd tystiolaeth hefyd yn dangos bod Syed yn cael ei gyflogi gan grwpiau troseddau cyfundrefnol eraill ledled y DU yn cynnal casgliadau tebyg o arian parod. Amcangyfrifir bod Syed wedi bod yn gyfrifol am gasglu cyfanswm o filiynau o bunnoedd.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Vinnie Easton o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Rydym yn croesawu'r dedfrydau a roddwyd i'r dynion a'r menywod am eu rolau yn smyglo ac yn gwerthu cyfanswm sylweddol iawn o gyffuriau Dosbarth A yn ne Cymru.
“Datgelodd yr ymchwiliad trylwyr hwn gynllun cyffuriau mawr ac mae'n enghraifft wych o'r gwaith manwl a gaiff ei gyflawni i fynd i'r afael â'r math hwn o drosedd gyfundrefnol.”
"Nid oes lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas, ac roedd y troseddwyr yn yr ymgyrch hon yn rhan o gang troseddau cyfundrefnol a achosodd niwed a thrallod yn ein cymunedau drwy gyflenwi cyffuriau.
“Rydym yn annog unrhyw un ledled de Cymru sydd â gwybodaeth am ddelio cyffuriau yn eu cymunedau i gysylltu â ni ar 101 neu ag elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”
Ar 25 a 26 Medi, cafodd yr unigolion eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd. Rhoddwyd y dedfrydau canlynol:
Kerry Evans, 35 oed | 14 mlynedd a 5 mis |
Lloyd Jones, 30 oed | 8 mlynedd a 10 mis |
Ricky Griffiths, 39 oed | 7 mlynedd a 1 mis |
Alex Davies, 28 oed | 7 mlynedd |
Christopher Wray, 31 oed | 7 mlynedd a 6 mis |
David Halliwell, 40 oed | 6 mlynedd a 7 mis |
Heather Flannigan, 42 oed | 4 mlynedd a 3 mis |
Jason Flannigan, 47 oed | 7 mlynedd a 8 mis |
Leon Owen, 29 oed | 7 mlynedd a 9 mis |
Asim Syed, 45 oed | 18 mis |
Claire James, 37 oed | 7 mlynedd a 10 mis |