Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Datganodd barnwr nad oedd Dennis Coles, 72 oed, yn addas i ymddangos gerbron y llys am resymau meddygol, felly ni allai dderbyn collfarn droseddol.
Yn hytrach, cafodd yr achos ei drin fel treial yn seiliedig ar ffeithiau a daeth y rheithgor i'r casgliad mai Coles oedd yn ‘gyfrifol am y weithred’.
Gwrandawiad cyhoeddus yw treial sy'n seiliedig ar ffeithiau i benderfynu a wnaeth y cyhuddedig gyflawni'r gweithredoedd honedig.Gall gael ei ganfod yn ‘ddieuog’ neu'n ‘gyfrifol am y weithred’.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Aimee Thomas, o Heddlu De Cymru:
“Ym mis Tachwedd 1977, roedd merch ifanc yn cerdded adref o'r Girl Guides yn Nhredelerch, Caerdydd pan ymosododd dieithryn arni.
“Cynhaliwyd ymchwiliad ar y pryd, a chafodd dyn a ddywedodd ei fod wedi ei threisio ei arestio. Fodd bynnag, nodwyd yn ddiweddarach nad oedd ei grwp gwaed yn cyfateb i'r semen a ganfuwyd yn y lleoliad a chafodd ei ryddfarnu.
“Yn 2019, gwnaethom ddechrau adolygiad o'r achos hwn a diolch i dechnoleg ddatblygedig a gwaith fforensig ychwanegol, cafodd Dennis Coles ei adnabod o'r DNA ar ddillad isaf y dioddefwr.”
Cafodd Coles ei arestio ym mis Gorffennaf 2021 a'i gyhuddo ym mis Medi 2022.
Heddiw, yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd orchymyn goruchwylio dwy flynedd.
Mewn datganiad i'r llys, dywedodd y dioddefwr:
“Mae gorfod mynd yn ôl drwy hyn wedi bod yn rhwystredig ac yn annifyr, gan fy mod wedi gorfod byw'r profiad ddwy waith. Ond mae gwybod bod cyfiawnder wedi cael ei weinyddu o'r diwedd wedi fy nghryfhau.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr achos ac i'r rhai y tu ôl i'r llenni. Mae'n galonogol cael cyfiawnder o'r diwedd, yn enwedig i'r Ditectif Aimee Thomas a fy ngweithiwr achos yn SARC (Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol), Courtney.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Rydym yn aml yn ailedrych ar achosion wrth i wyddoniaeth fforensig ddatblygu a byddem yn annog unrhyw ddioddefwyr; ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Thomas:
“Mae'r dioddefwr wedi bod yn amyneddgar, yn gadarnhaol ac yn ddewr drwy gydol y broses hon ac rwy'n falch iawn ei bod wedi cael y cyfiawnder y mae'n ei haeddu o'r diwedd.”
Ers 2000, mae Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru wedi bod yn ymchwilio i droseddau difrifol heb eu canfod ledled De Cymru sy'n mynd yn ôl sawl degawd.
Mae'r uned wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol ac mae wedi defnyddio technegau arloesol i ailagor hen achosion yn y gorffennol.