Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Active Best About”
“New 1 raw best about deals”
Dyma'r math o ymadroddion a ddefnyddiwyd gan ddeliwr cyffuriau wrth geisio gwerthu ei gyffuriau.
Daethpwyd o hyd i'r negeseuon hyn wrth ymchwilio i linell gyffuriau ‘Fatz’ Jack Thomas. Cafodd Jack Thomas – y mae ganddo'r llythrennau ‘Fatz’ ar ffurf tatŵ ar fysedd ei law chwith – ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau (19 Medi).
Byddai negeseuon fel hyn yn cael eu hanfon at gannoedd o bobl ar yr un pryd. Maen nhw'n awgrymu ‘purdeb’ ac ‘argaeledd’ y crac cocên yr oedd yn ei werthu.
Jack Thomas, 27 oed, o Stryd Hilda, y Barri, yw'r person diweddaraf i gael ei garcharu yn dilyn ymgyrch gydgysylltiedig a gynhaliwyd drwy fis Gorffennaf eleni i darfu ar gyflenwadau llinellau cyffuriau.
Cafodd ei arestio yn ei gartref ar 11 Gorffennaf ar ôl i swyddogion weithredu gwarant chwilio. Yno, atafaelodd swyddogion ffonau symudol, gan lwyddo i gysylltu'r ffonau hynny'n uniongyrchol â ffon arall a atafaelwyd gan ddyn y credwyd ei fod yn gweithredu fel rhedwr i Thomas fis cyn hynny.
Ar ôl i'r dyn hwnnw gael ei arestio, lansiodd Jack Thomas ei linell gyffuriau ar ffôn newydd ond cafodd ei adnabod gan swyddogion ar ôl iddynt gael gafael ar fideo teledu cylch cyfyng o'r lleoliad lle prynodd y ddyfais.
Plediodd Thomas yn euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên a chafodd ei garcharu am 30 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 20 Medi.
Llun o'r fideo teledu cylch cyfyng a ddefnyddiwyd i erlyn Jack Thomas.
Llun o sgrinlun neges destun.
Llun o Jack Thomas yn y ddalfa.