Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu De Cymru yw'r ail heddlu yn unig yn y DU i gyflawni ardystiad y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol – sy'n ei nodi'n arweinydd ym maes datblygu gweithleoedd cynhwysol.
Daeth y cyhoeddiad ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Cynhwysiant Cenedlaethol, sef wythnos sy'n dathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol.
Mae Heddlu De Cymru yn ymuno â grŵp arweiniol o sefydliadau yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus sy'n meddu ar ardystiad y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol, sy'n nodi'n glir y meini prawf cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y mae'n rhaid i gwmnïau a sefydliadau eu bodloni.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom ddechrau ar ein taith i gyflawni'r Safon Cydraddoldeb Genedlaethol. Gwnaethom geisio help gan EY er mwyn cael barn gadarn ac allanol ar ein sefydliad a'i ddulliau i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
“Gwnaethom groesawu'r broses gan ein bod am nodi'r hyn rydym yn ei wneud yn dda, ond yn bwysicach oll, deall yr hyn y gallwn ei wella ar gyfer Tîm HDC a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym wedi ystyried pob nodwedd.
“Rwy'n hynod falch o'r achrediad hwn a'r gwaith rydym wedi'i wneud i'w gyflawni. Mae croesawu'r lefel hon o graffu arbenigol annibynnol wedi ein helpu i ddeall sut y gallwn sicrhau cydraddoldeb ym mhob rhan o'n busnes dyddiol.”
Fel rhan o achrediad y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol, rhaid cynnal asesiad bob tair blynedd.
Mae canfyddiadau ac argymhellion y Safon Cydraddoldeb Genedlaethol wedi llywio ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, sy'n esbonio ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer sicrhau cydraddoldeb a thrawsnewid ein diwylliant, ac sy'n nodi ein hamcanion sylfaenol o ran cydraddoldeb, gwrth-hiliaeth a dileu casineb at fenywod.
Dywedodd Mr Vaughan:
“Dylai'r safon hon roi hyder i ni fod gennym sylfeini cadarn i ddatblygu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i fod yn fwy ymrwymedig i gyflawni ein nod o gymdeithas lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn ymddiried yn Heddlu De Cymru.”