Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd deliwr cyffuriau ei ddal yn ei weithred. Ond gwnaeth galwad ffôn a wnaed ganddo i'r heddlu saith mis ynghynt ei gysylltu'n uniongyrchol â llinell cyffuriau a oedd yn cyflenwi cocên a heroin.
Cysylltodd Nuradin Maxamed Shiiqow â Heddlu De Cymru ynglŷn â beic bron i flwyddyn cyn iddo gael ei arestio a gwnaeth hyn helpu i'w roi yn y carchar.
Cafodd y dyn 41 oed ei arestio mewn tŷ yn Grangetown ar 9 Gorffennaf, lle cafodd ei ddal gyda deliadau stryd o grac cocên yn ei boced.
Roedd ganddo ddeunyddiau o'i amgylch fel soda pobi sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu crac cocên.
Cafodd dau ffôn eu hatafaelu gan swyddogion hefyd a ddaeth o hyd i dystiolaeth amlwg o ddelio cyffuriau a hysbysebion torfol am gyffuriau ar werth.
Llwyddodd swyddogion i gysylltu un o'r rhifau ffôn yn uniongyrchol â Shiiqow gan ei fod eisoes ar systemau'r heddlu.
Cafodd ei gyhuddo o droseddau gan gynnwys meddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi ac ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin.
Llwyddodd swyddogion i greu achos cadarn yn ei erbyn a phlediodd yn euog. Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener, 30 Awst, lle cafodd ei garcharu am 51 mis.
Llun o Nuradin Maxamed Shiiqow yn y ddalfa.