Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pum aelod o grŵp troseddau cyfundrefnol sy'n gyfrifol am fasnachu dros 70 cilogram o Heroin, gyda gwerth stryd o oddeutu £7,000,000 o gwmpas y Deyrnas Unedig wedi cael dedfrydau sy'n gwneud cyfanswm o 57 o flynyddoedd a deufis heddiw yn Llys y Goron Caerdydd.
Daethpwyd â phum dyn gerbron y Llys yn dilyn ymchwiliad estynedig – a elwir yn Ymgyrch Solon – dan arweiniad Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru.
Dechreuodd Tarian yr ymgyrch ar 12 Mai 2022, pan ofynnwyd i Heddlu'r Alban arestio Steven Creasey. Cafodd Creasey, cyn-swyddog yr heddlu a oedd hefyd wedi gweithio i'r Llynges Frenhinol, ei stopio wrth yrru ei gerbyd i Fife. Roedd eisoes wedi gyrru o'i gartref yng Nghaerdydd i Lerpwl. Cafodd cuddfan a oedd wedi'i gosod yn broffesiynol o dan y sedd teithiwr ei chanfod gan gi cyffuriau, ynghyd â 5 cilogram o Heroin ac 1 cilogram o sylwedd difwynol. Yn ogystal, cafodd ffôn dros dro yn cysylltu Creasey ag aelodau eraill o'r grŵp troseddau cyfundrefnol ei ganfod yn ei feddiant.
Dangosodd ymchwiliad dilynol Tarian fod Creasey yn gludwr proffesiynol wedi'i leoli yng Nghaerdydd a oedd yn gweithio i benaethiaid grŵp troseddau cyfundrefnol yn Lerpwl. Roedd Christopher Brannan a Stephen Hopkins yn casglu symiau cyfanwerthol o Heroin, yna'n dosbarthu'r cyflenwad ymlaen i bob rhan o'r DU drwy Steven Creasey, Kevin Thomson, Christopher Heaney a Jeffrey Hickson. Yna, byddai Christopher Brannan yn gwyngalchu'r elw drwy gyfrif banc ei bartner, Kirsty Murphy.
Cynhaliwyd diwrnodau gorfodi a gafodd eu harwain a'u cydlynu gan swyddogion o Uned Tarian ar ddiwedd 2022 yng Nghaerdydd, Lerpwl, Anstruther, Lochgelly a Blyth. Cyflawnwyd gwarantau yng nghyfeiriadau cartref pob un o'r diffynyddion gyda chymorth heddluoedd lleol. Daethpwyd o hyd i eitemau arwyddocaol yn y cyfeiriadau, gan gynnwys gemwaith drud, heroin, cocên, sylweddau difwyno, opiwm, planhigion canabis a mowldiau metel i wasgu powdr i mewn i flociau.
Plediodd pob un o'r pum diffynnydd yn euog cyn y treial. Cyhoeddwyd y dedfrydau canlynol yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Cafwyd Christopher Brannan o 15 Sandeman Road, Walton, Lerpwl yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 16 Rhagfyr 2022. Cafodd ei ddedfrydu i 18 mlynedd a 5 mis o garchar.
Cafwyd Christopher Heaney o 6B Cunzie Street, Anstruther, Fife yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 6 Chwefror 2024. Cafodd ei ddedfrydu i 9 mlynedd a 5 mis o garchar.
Cafwyd Jeffrey Hickson o 1 Brewery Street, Blyth, Northumberland yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 7 Chwefror 2024. Cafodd ei ddedfrydu i 10 mlynedd a 4 mis o garchar.
Cafwyd Kevin Thomson o 44 Inchgall Avenue, Crosshill, Lochgelly, Fife yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 20 Ionawr 2023. Cafodd ei ddedfrydu i 6 mlynedd a 10 mis o garchar.
Cafwyd Steven Creasey o 7 Allerton Street, Grangetown, Caerdydd yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 17 Mawrth 2023. Cafodd ei ddedfrydu i 12 mlynedd a 7 mis o garchar.
Cafwyd Stephen Hopkins, gynt o 117 Haven Road, Fazakerley, Lerpwl yn euog o Gynllwynio i Gyflenwi Heroin ar 16 Rhagfyr 2022. Bu farw cyn cael ei ddedfrydu.
Cafwyd Kirsty Murphy o 15 Sandeman Road, Walton, Lerpwl, yn euog o Gynhyrchu Canabis a Threfnu i Gadw Eiddo Troseddol ar 10 Awst 2023. Cafodd ei dedfrydu i 6 mis, wedi'i ohirio am 18 mis.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Gwnstabl Rhys Richards, o Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian:
“Gwnaeth y grŵp troseddau cyfundrefnol hwn achosi diflastod ledled y Deyrnas Unedig er eu budd ariannol eu hunain. Mae cyfiawnder bellach wedi dal i fyny â nhw. Roedd Ymgyrch Solon yn ymchwiliad cymhleth a oedd yn ymestyn dros ddwy awdurdodaeth wahanol, ac mae'r dedfrydau a roddwyd heddiw o ganlyniad i swyddogion heddlu a staff heddlu ymroddedig yn gweithio'n ddiflino i gyflawni canlyniad cadarnhaol.
“Rwy'n gobeithio bod y dedfrydau hyn yn anfon neges gref i'r rhai sy'n ystyried bod delio mewn cyffuriau a throseddau cysylltiedig yn ffordd o wneud symiau sylweddol o arian, a hynny yn gyflym.
“Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â heddluoedd lleol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith i sicrhau y caiff troseddwyr fel y rhain eu dal a'u bod yn dod o flaen eu gwell. Hoffwn ddiolch i bob un o'r heddluoedd a'r asiantaethau a'n helpodd ni yn yr ymgyrch hon, a ddangosodd pa mor effeithiol y gall gweithio mewn partneriaeth fod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Christopher McGlinchey o Heddlu'r Alban:
“Mae'r achos hwn yn pwysleisio ein hymdrechion cydweithredol i darfu ar rwydweithiau troseddau cyfundrefnol sy'n ymestyn dros ranbarthau.
“Roedd gan y swm sylweddol o gyffuriau a fasnachwyd gan y grŵp hwn y potensial i achosi niwed difrifol i'n cymunedau.
“Mae llwyddiant Ymgyrch Solon yn dangos gwaith partneriaeth cryf rhwng Heddlu'r Alban, Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian ac asiantaethau partner eraill. Mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i Strategaeth Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol y DU.
“Nid oes lle i droseddau cyfundrefnol yn ein cymdeithas a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod â'r sawl sy'n gyfrifol o flaen eu gwell.”