Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Birmingham wedi'i ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o 16 mlynedd yn y carchar, am lofruddio Daniel Rae yn Nhrefforest ym mis Rhagfyr.
Bu farw Daniel, 30 oed, mewn eiddo ar Princess Street, Trefforest, nos Sul, 17 Rhagfyr.
Yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru, cafwyd Kieran Ashton Carter, 22 oed, o Birmingham, yn euog o lofruddiaeth.
Cafwyd Amy Jones, 37 oed, o Derwendeg Avenue, Glyncoch, Pontypridd, yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chafwyd Chad Joy, 33 oed, o Garth Avenue, Glyncoch, Pontypridd, yn euog o gynorthwyo troseddwr.
Heddiw (dydd Iau, 26 Medi), cafodd Carter ei ddedfrydu i garchar am oes gydag isafswm o 16 mlynedd ac 89 diwrnod; Cafodd Jones ei dedfrydu i 10 mis wedi'i ohirio am 24 mis, a chafodd Joy ei ddedfrydu i naw mis wedi'i ohirio am 18 mis.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes:
“Ychydig ar ôl 7.50pm nos Sul 17 Rhagfyr, cawsom adroddiad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru nad oedd Daniel yn anadlu mewn cyfeiriad ar Princess Street, Trefforest. Roedd wedi cael ei drywanu sawl gwaith yn ei glun, a bu ei anafiadau yn angheuol.
“Arweiniodd hyn at ymchwiliad heriol a chymhleth yn cynnwys adnoddau arbenigol o bob rhan o'r heddlu, er mwyn adnabod, dal ac erlyn y rheini a oedd yn gysylltiedig â marwolaeth Daniel Rae.
“Mae'r dedfrydau heddiw yn dangos i'r rheini sy'n cyflawni trosedd, ni waeth sawl cam y byddwch yn ei gymryd i rwystro ymchwiliad, na fyddwn yn rhoi'r gorau iddi.
“Rwy'n meddwl am deulu a ffrindiau Daniel sydd wedi gorfod ymdopi â cholled ddifrifol. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau teulu Daniel am eu dealltwriaeth a'u cymorth yn ystod yr ymchwiliad.”