Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod dyn wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth Joshua Norman.
Bydd Paul Rosser, 49 oed, o Gendros yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe yn nes ymlaen heddiw (Dydd Sadwrn 14 Medi).
Bu farw Joshua Norman, 27 oed, ar ôl iddo gael ei ganfod ag anafiadau difrifol yn Cwm Road, Hafod tua hanner dydd, ddydd Mercher 11 Medi.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Joshua yn fab, yn dad, yn frawd ac yn ewythr cariadus a oedd yn caru ei deulu'n fawr.
“Roedd yn berson hyfryd a byddai ei wên a'i synnwyr digrifwch yn goleuo unrhyw ystafell ac unrhyw galon.
“Byddwn yn ei golli'n fawr ac rydym yn gofyn am breifatrwydd i alaru am golled ein mab annwyl.”
Mae dyn 31 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae dau ddyn arall yn eu tri degau, a gafodd eu harestio hefyd, wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.