Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwerthwr cyffuriau euogfarnedig hwn wedi cael gorchymyn i ad-dalu mwy nag £80K o enillion troseddol.
Cafodd John Kear, o Sandfields, Port Talbot dymor o saith mlynedd a dau fis o garchar ym mis Mawrth eleni, ar ôl iddo gael ei ddarganfod gyda mwy na phedwar cilo o gocên wedi'i guddio yn ei uned storio ym Maglan.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, dywedwyd wrth y llys fod Kear "dan bwysau" i storio'r cyffuriau ar gyfer troseddwyr eraill, ac fe gafodd ei dalu am wneud hynny.
Ond dywedodd ein hymchwilwyr ariannol wrth wrandawiad Deddf Enillion Troseddau (POCA) yr wythnos hon, bod y dyn 57 oed wedi elwa o'i weithredoedd troseddol o fwy na £621K a bod asedau ar gael gwerth cyfanswm o £82,528.
Cyhoeddodd y barnwr yn y gwrandawiad yr wythnos hon yn Llys y Goron Abertawe orchymyn atafaelu am y £82,528.
Croesawodd yr Ymchwilydd Ariannol yn yr achos y canlyniad.
Dywedodd yr ymchwilydd o Uned Economaidd a Seiberdroseddu Gwybodaeth yr Heddlu:
"Mae troseddau cyfundrefnol a chyflenwadau cyffuriau ar raddfa fawr yn achosi trallod yn ein cymunedau, gyda rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas yn aml yn cael eu hecsbloetio gan droseddwyr didostur sydd ond â diddordeb mewn gwneud symiau mawr o arian ac ariannu ffyrdd o fyw moethus.
"Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn rhoi rhybudd clir i eraill sy'n ymwneud â'r fath drosedd; Nid yn unig y bydd ein swyddogion yn gweithio'n ddi-baid i adnabod y rhai sy'n gyfrifol ac yn dod â nhw gerbron y llysoedd i'w tynnu o'n strydoedd, byddwn hefyd yn defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i sicrhau bod asedau a gafwyd o ganlyniad i droseddoldeb yn cael eu cymryd o'u meddiant."
Dan ofynion y gorchymyn, bydd gan John Kear dri mis i ad-dalu'r swm a amlinellwyd gan y llysoedd. Gallai methu â gwneud hynny arwain at gyfnod ychwanegol o garchar am flwyddyn.
Rhennir elw o asedau a atafaelwyd o dan y POCA rhwng y Trysorlys, y gwasanaeth llys, Heddlu De Cymru, a Gwasanaeth Erlyn y Goron.