Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth Sambou Kassama ei orau i osgoi swyddogion drwy daflu ei gyffuriau allan o ffenestr a neidio o lawr cyntaf ei dŷ.
Ond cafodd ei ddarganfod yn cuddio yng ngardd cymydog ac mae bellach yn y carchar.
Datgelodd ymchwiliad yr heddlu fod yr unigolyn 27 oed o Drelái, Caerdydd, wedi bod yn rhedeg dwy linell cyffuriau yn yr ardal, yn delio crac cocên a heroin.
Ar 4 Gorffennaf 2024, cynhaliwyd gwarant gan swyddogion yng nghyfeiriad ei gartref.
Mae deunydd drôn yn dangos y foment y taflodd Kassama gyffuriau allan o ffenestr gefn ystafell wely cyn neidio drwy'r ffenestr a rhedeg i ffwrdd.
Cafodd ei arestio ac yn ddiweddarach plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, dau gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A a bod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant.
Cafodd Kassama ei ddedfrydu i 4 mlynedd a 4 mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 17 Medi 2024.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw hon o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Ni fyddwn yn goddef cyffuriau yn ein cymunedau, ac rydym yn targedu'r rhai y credir eu bod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau a reolir yn barhaus.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â gweithio â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.