Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod dau ddyn o Wlad yr Haf wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth Andrew Main.
Ymddangosodd Joseph Dix, 26 oed o Frome, a Macauley Ruddock, 27 oed o Gaerfaddon, yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 13 Medi. Plediodd y ddau yn ddieuog ac mae treial bellach wedi'i drefnu ar gyfer mis Ionawr 2025.
Bu Andrew Main, 33 oed o Falkirk, Yr Alban, mewn digwyddiad ar 17 Gorffennaf. Cafodd ei dderbyn i'r ysbyty ond ar 14 Awst, bu farw yno o'i anafiadau a lansiwyd ymchwiliad i'w lofruddiaeth gan Heddlu De Cymru.
Mae chwaer Andrew, Nikki Main, wedi talu'r deyrnged ganlynol i'w brawd:
“Yn anffodus, cafodd Andrew – fy mrawd bach – ei gymryd oddi wrthym yn rhy gynnar o lawer.
“Roedd ei deulu a'i ffrindiau yn ei garu, a llawer mwy yn meddwl y byd ohono.
“Mae ei farwolaeth sydyn wedi bod yn ergyd enbyd i ni, a gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.
“Bydd yn parhau yn ein calonnau a'n hatgofion am byth.
“Roedd yn ddyn ffraeth â chalon enfawr – yn ffyddlon hyd y diwedd.
“Roedd yn frawd arbennig, yn ewythr llawn hwyl, ac yn dad cefnogol i'w ddau blentyn.
“Fydd neb arall yn debyg i Andrew. Mae bwlch mawr wedi'i adael yn ein calonnau, na fydd byth yn cael ei lenwi.
“Mae pawb yn ein cymuned wedi'u llorio gan alar, ond rydym wedi dod ynghyd yn ystod y cyfnod trist hwn.
“Mae'r hyn sydd wedi digwydd i Andrew wedi chwalu ein teulu. Allwn ni ddim diolch digon i bawb am eu cariad a'u cefnogaeth.”
Llun o Andrew Main, a fu farw yn yr ysbyty ym mis Awst yn dilyn digwyddiad yn Abertawe.