Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deliwr cyffuriau o Gaerdydd a oedd yn gweithredu'r llinell gyffuriau ‘SPICE’ a oedd yn cyflenwi heroin a chrac cocên wedi cael ei garcharu.
Darganfu Uned Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro mai Hassan Hassan, 20 oed o Adamsdown, oedd unig arweinydd y llinell gyffuriau a oedd yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A i'w chwsmeriaid.
Cafodd Hassan ei arestio gan swyddogion yr Heddlu Metropolitanaidd yn Llundain ar 17 Gorffennaf. Ceisiodd roi'r ffôn symudol a oedd yn rhan greiddiol o ymchwiliad yr heddlu i rywun arall wrth i'r swyddogion agosáu ato.
Drwy gynnal archwiliad fforensig o'r data ar ei ffôn, llwyddodd Heddlu De Cymru i gysylltu Hassan yn uniongyrchol â'r llinell gyffuriau. Llwyddodd swyddogion i ddangos ei fod wedi anfon yr un negeseuon testun yn cynnig crac cocên a heroin i gannoedd o bobl ar yr un pryd.
Cafodd Hassan ei gyhuddo a phlediodd yn euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin ar 16 Awst.
Yn gynharach heddiw (dydd Mercher 18 Medi) cafodd ei garcharu am 41 mis yn Llys y Goron Caerdydd.
Hassan yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o grac cocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.