Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o'r Rhondda wedi cael ei garcharu am dreisio menyw ac am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant. Treisiodd Mathew Pugh, 40 oed, fenyw pan na allai gydsynio ym mis Gorffennaf 2023.
Gwnaeth staff diogelwch a oedd yn gweithio ar safle cyfagos i'r man lle digwyddodd yr ymosodiad gysylltu â'r heddlu gyda phryderon am y dioddefwr agored i niwed ar ôl ei gweld ar deledu cylch cyfyng.
Cyrhaeddodd swyddogion ymhen munudau a daethant o hyd i'r dioddefwr gofidus. Roedd Mathew Pugh yn yr ardal o hyd a chafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad a'i gyhuddo o dreisio. Gwnaeth Heddlu De Cymru gais am remand, a chafodd y cais hwnnw ei gymeradwyo gan y llys.
Pan dreisiodd Pugh ei ddioddefwr, roedd ar fechnïaeth am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant. Ym mis Mai 2023, cysylltodd pobl a oedd yn adnabod Pugh â'r heddlu ar ôl iddynt ddod o hyd i ddelweddau ar ei ffôn pan wnaethant ei fenthyg i wrando ar gerddoriaeth.
Ymatebodd swyddogion a gwnaethant atafaelu ffôn Pugh a'i arestio ar ôl iddynt ddod o hyd i gynnwys anghyfreithlon a oedd yn cynnwys delweddau Categori A. Cafodd ei gyhuddo tra roedd ar remand am dreisio.
Plediodd Mathew Pugh yn ddieuog o dreisio ym mis Chwefror eleni ond cafodd ei ganfod yn euog yn dilyn treial ym mis Gorffennaf.
Plediodd yn euog o fod â delweddau anweddus yn ei feddiant a'u rhannu.
Ddydd Gwener, 6 Medi, ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd i'w ddedfrydu am yr holl droseddau, lle cafodd ei garcharu am 13 mlynedd gyda thrwydded estynedig o hyd at chwe blynedd.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Ashley Colston:
“Ni allai dioddefwr Pugh gydsynio mewn unrhyw ffordd i gyfathrach rywiol ar y noson y gwnaeth ei threisio. Rwy'n canmol dewrder y dioddefwr drwy gydol y broses hon, sydd wedi bod yn hir ac yn anodd. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y dioddefwr yn cael y cymorth sydd ei angen arni. Heddiw, cafodd y cyfiawnder y mae'n ei haeddu ac rwy'n gobeithio bod hyn yn ei helpu i adfer ar ôl cyfnod trawmatig yn ei bywyd, a bod newyddion yr erlyniad hwn yn rhoi'r hyder i ddioddefwyr eraill gysylltu â ni. Mae'r delweddau y daethpwyd o hyd iddynt ar ffôn Pugh yn cadarnhau bod ei ffiniau rhywiol yn berygl i gymdeithas, sy'n lle mwy diogel gydag ef yn y carchar.”
Cyngor a chymorth i ddioddefwyr trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol