Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod 31 o bobl wedi cael galwadau drwy'r post i ymddangos gerbron y llys ar ôl cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud ag anhrefn difrifol a ddigwyddodd yn ardal Trelái o Gaerdydd ddydd Llun, 22 Mai 2023.
Bydd 20 oedolyn a 7 person ifanc yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, 19 Medi a dydd Gwener, 20 Medi ar ôl cael eu cyhuddo o derfysg.
Mae pedwar arall, tri oedolyn ac un person ifanc, yn wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol neu fygwth achosi difrod troseddol a byddant hefyd yn ymddangos gerbron y llys ar yr un dyddiadau.
Prif Uwcharolygydd Danny Richards o Heddlu De Cymru:
“Cafodd sawl cerbyd ei roi ar dân, difrodwyd eiddo, anafwyd swyddogion yr heddlu ac roedd trigolion yn ofnus yn eu cartrefi, yn ystod yr anhrefn.
“Yn dilyn ymchwiliad trylwyr dan arweiniad ditectifs y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi cyhuddiadau o derfysg, difrod troseddol a bygwth achosi difrod troseddol.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am gymorth y gymuned drwy gydol ein hymchwiliad ac rydym bellach yn aros am ganlyniad proses y llys.”