Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn a gafodd ei ganfod ag anafiadau difrifol yn Abertawe ddydd Mercher.
Aeth swyddogion i Cwm Road, Hafod, Abertawe ychydig ar ôl 12pm ddydd Mercher 11 Medi.
Bu farw'r dioddefwr, dyn 27 oed o Waun Wen, o'i anafiadau. Mae ei berthnasau agosaf wedi'u hysbysu.
Mae pedwar dyn o Abertawe - dyn 31 oed o Waun Wen, dyn 49 o Gendros, dyn 37 oed o'r Strand, a dyn 39 oed o Dreforys – wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn ac maent yn nalfa'r heddlu.
Mae'r ymchwiliad hwn yn mynd rhagddo ac mae Cwm Road yn parhau i fod ar gau tra bod ymholiadau'n cael eu cynnal.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes:
“Diolch i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r ymchwiliad hwn fynd rhagddo.
"Rydym yn apelio at unrhyw dystion, gan gynnwys unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd a oedd yn teithio ar hyd New Cut Road rhwng 11:50am a 12pm ddoe, i gysylltu â ni."
Os gwelsoch chi'r digwyddiad hwn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod a dyfynnu 2400304178:
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
101
Neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111
Dolen MIPP: https://mipp.police.uk/operation/62SWP19Z98-PO1