Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru â First Cymru ar gyfer Ymgyrch Routemaster, sy'n ceisio newid ymddygiad gyrwyr a chadw modurwyr yn ddiogel.
Roedd swyddogion ar fws yn recordio modurwyr a oedd yn pasio er mwyn ceisio dal y rhai a oedd yn cyflawni troseddau traffig y ‘pump angheuol’, sy'n cynnwys defnyddio eu ffôn symudol, peidio â gwisgo gwregys diogelwch, gyrru'n ddiofal, goryrru neu yrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau.
Dechreuodd Heddlu De Cymru ei bartneriaeth â First Cymru ar 11 Medi, ac yn ystod un diwrnod yn unig, cafodd 26 o fodurwyr eu dal yn cyflawni un o'r pump angheuol. Cawsant eu stopio gan swyddogion heddlu'r ffyrdd mewn cerbydau heddlu wedi'u marcio, a roddodd gyngor, adroddiadau troseddau traffig, Adroddiad am Wŷs, cosbau penodedig, Gwaharddiadau PG6 ac atafaelwyd un cerbyd am nad oedd wedi'i yswirio.
Dywedodd PC Nick Thomas, Uned Diogelwch ar y Ffyrdd a Cherbydau Masnachol a arweiniodd yr ymgyrch:
“Mae modurwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o gael gwrthdrawiad os byddant yn defnyddio eu ffôn wrth y llyw ac mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i dargedu ymddygiad gyrru peryglus er mwyn cadw ein ffyrdd mor ddiogel â phosibl.
“Mae Ymgyrch Routemaster yn fenter newydd lle mae gennym swyddogion yr heddlu yn casglu tystiolaeth am y pum trosedd angheuol. Cawsom ddiwrnod llwyddiannus yn gweithio gyda chwmni bysiau First Cymru, sy'n rhannu ein hangerdd am ddiogelwch ar y ffyrdd, er mwyn siarad â gyrwyr o gwmpas Abertawe a'u haddysgu. Ar ôl i'r ymgyrch gael ei threialu'n llwyddiannus, rydym yn bwriadu cyflwyno'r ymgyrch i ardaloedd eraill ledled yr heddlu.”
Ydych chi'n meddwl eich bod wedi ffilmio trosedd traffig ffordd wrth iddi ddigwydd? Mae #Ymgyrch Snap, a gynhelir gan un o asiantaethau partner Heddlu De Cymru, sef Gan Bwyll, yn eich galluogi i roi gwybod am bryderon ynghylch troseddau traffig a chyflwyno deunydd ffilm yn hawdd.
Dysgwch fwy am y broses: https://www.ganbwyll.org/cwestiynau-cyffredin/