Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth plentyn o ardal Gendros, Abertawe, yr wythnos hon.
Bu farw Alexander Zurwaski, 6 oed, mewn eiddo yn Cwm Du Close ddydd Iau 29 Awst.
Mae Karolina Zurwaska, 41 oed, o ardal Gendros, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â marwolaeth Alexander. Mae hefyd wedi cael ei chyhuddo o ymgais i lofruddio mewn cysylltiad â digwyddiad a oedd yn cynnwys dyn 67 oed yn gynharach ar yr un diwrnod.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe yfory (dydd Llun 2 Medi).
Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Chris Truscott, comander rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot:
“Mae hwn yn ddigwyddiad ofnadwy sydd wedi bod yn sioc enfawr i'r gymuned leol.
"Mae'r gymuned leol wedi bod yn anhygoel wrth gefnogi ein hymchwiliad, a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, sydd wedi bod yn drawmatig.
"Bydd yr heddlu yn parhau yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn darparu cyngor a sicrwydd.
“Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Alexander yn y cyfnod anodd iawn hwn.”
Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd Whitestone:
Rydym wedi cael ein llorio o glywed am farwolaeth drasig Alexander. Roedd Alexander yn fachgen bach hyfryd a phenderfynol ac roedd ei ymddygiad cadarn a chadarnhaol yn sicrhau ei lwyddiant ym mhopeth a wnaeth.
"Roedd cymaint yn ei garu ac roedd yn fachgen poblogaidd ymhlith ei gyfoedion, y staff a phawb a oedd yn ei adnabod. Byddwn yn ei golli'n fawr.
"Bydd cymorth priodol ar gael i'r plant, y staff a phawb yng nghymuned yr ysgol yr effeithiwyd arnynt. Gofynnwn i chi barchu preifatrwydd cymuned yr ysgol yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae'r deyrnged isod gan deulu Alexander.
“Roedd yn Alexander yn blentyn caredig iawn.
"Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda'i chwaer fach a'i gi, 'Daisy'.
"Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.
"Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
"Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i roi help llaw yn coginio a glanhau.
"Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai'n aml yn cywiro ei rieni gyda'u Saesneg os byddent yn cael geiriau yn anghywir.
“Roedd yn anhygoel.”
Hoffai'r teulu ddiolch yn fawr i'r holl wasanaethau brys sydd wedi ymwneud â'r digwyddiad trasig hwn.
Hoffent hefyd ofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.