Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gorchymyn gwasgaru, sydd wedi'i roi dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith o hanner dydd yfory (Dydd Mawrth, 19 Mawrth) hyd at hanner dydd ddydd Iau, 21 Mawrth yn ardal Butetown.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi aflonyddwch, codi ofn neu achosi trallod, neu'n debygol o'u hachosi, i adael yr ardal sydd wedi'i nodi ar y map.
Bydd gan y swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn adroddiadau cynyddol o achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yn Butetown.
Tua 7.45pm neithiwr (Nos Lun, 18 Mawrth) cafwyd adroddiad bod dyn wedi cael ei drywanu yn Waverley Square, Butetown, Caerdydd.
Mae un dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog. Mae saith dyn rhwng 18 a 28 oed wedi cael eu harestio ac mae'r ymholiadau'n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Abi Biddle, o Heddlu De Cymru: "Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith am y 48 awr nesaf fel mesur ataliol.
"Bydd gennym bresenoldeb uwch yn Butetown ac ni fydd swyddogion yn ymatal rhag rhoi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt ar waith, er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â phobl ifanc am beidio ag ymgymryd â delio mewn cyffuriau.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhowch Wybod Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.