Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Swyddogion yn Butetown, Caerdydd, yn cael pwerau ychwanegol i atal digwyddiadau, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Anogir rhieni a gwarcheidwaid i siarad â phobl ifanc am beidio ag ymgymryd â delio mewn cyffuriau. Mae'r heddlu hefyd yn gwirio pwy maent yn ymwneud â nhw, yr hyn maent yn ei wneud a lle maent.
Mae swyddogion yn Butetown, Caerdydd, wedi cael pwerau ychwanegol i atal digwyddiadau, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn achos o drywanu nos Lun a phryderon parhaus am achosion o drais, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Mae gorchymyn gwasgaru 48 awr, sydd wedi'i roi o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, ar waith o 1.30pm heddiw (dydd Iau, 21 Mawrth) tan 1.30pm ddydd Sadwrn.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi aflonyddwch, codi ofn neu achosi trallod, neu'n debygol o'u hachosi, i adael yr ardal sydd wedi'i nodi ar y map.
Bydd gan y swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn adroddiadau cynyddol o achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yn Butetown.
Tua 7.45pm nos Lun, 18 Mawrth, cafwyd adroddiad am achos o drywanu yn Waverley Square, Butetown, Caerdydd.
Mae un dyn yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog. Mae saith dyn rhwng 18 a 28 oed wedi cael eu harestio ac mae'r ymholiadau'n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Abi Biddle, o Heddlu De Cymru: “Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith dros y 48 awr nesaf fel mesur ataliol.
“Bydd gennym bresenoldeb uwch yn Butetown ac ni fydd swyddogion yn ymatal rhag rhoi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt ar waith, er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â phobl ifanc am beidio ag ymgymryd â delio mewn cyffuriau. Mae'r heddlu hefyd yn gwirio pwy maent yn ymwneud â nhw, yr hyn maent yn ei wneud a lle maent.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.